Wedi graddio o Brifysgol Lerpwl, dechreuodd Chrissie ei swydd gyntaf fel milfeddyg mewn practis prysur yn Rhuthun. Er ei bod yn disgwyl i’r swydd fod yn heriol, cafodd ei synnu gan y tonnau o orbryder a brofodd o’i diwrnod cyntaf un. Yn allanol, roedd yn ymddangos yn hyderus ac yn alluog, ond y tu mewn, roedd ei hamheuon yn tyfu, ac yn raddol yn erydu ei chydnerthedd.

Pan argymhellodd meddyg teulu Chrissie Wasanaeth Cefnogaeth yn y Gwaith RCS, fe estynnodd allan ac yn syth roedd y broses broffesiynol a chefnogol wedi creu argraff arni. Cafodd ei pharu gyda therapydd a derbyniodd chwe sesiwn cwnsela am ddim, sef yr union beth roedd hi ei angen.

Drwy gwnsela, fe wnaeth Chrissie ennill dealltwriaeth eglur o’i gorbryder a dysgodd strategaethau ymarferol i’w reoli. Roedd y gwahaniaeth yn ei bywyd gwaith yn drawsnewidiol. Eglurodd na fyddai fyth wedi rhoi’r gorau i fod yn filfeddyg, ond heb gefnogaeth roedd hi’n gwybod y byddai wedi dod yn un anhapus.

Yr un person ag o’n i cyn hyn ydw i, ond nawr rwy’n gallu cymryd cam yn ôl o’r sefyllfa a delio gyda hi heb adweithio. Pan mae’n dod i fy swydd, rydw i wir yn mwynhau heriau oedd yn arfer codi ofn mawr arna’ i a nawr mae gen i yrfa fel milfeddyg sy’n fy nghyffroi yn hytrach nag achosi straen, sy’n wych.

Pan wnaeth hi a’i phartner briodi, fe wnaethant ofyn am gyfraniadau i RCS yn hytrach nag anrhegion yn y gobaith o helpu mwy o bobl i gael mynediad at y gefnogaeth a wnaeth cymaint o wahaniaeth i’w bywyd hi.