Isod mae rhestr o’n swyddi gwag cyfredol. Am fwy o fanylion ac i wneud cais cliciwch ar ‘Dysgu mwy’. Wrth wneud cais bydd angen i chi hefyd lenwi a dychwelyd y ffurflen monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth drwy’r ddolen isod.
Broliant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
A allech chi hefyd lenwi a dychwelyd y ffurflen monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth drwy’r ddolen isod, i’n helpu i sicrhau ein bod yn cyrraedd ymgeiswyr o bob cymuned.
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw ar wahân i’ch ffurflen gais ac yn cael ei defnyddio’n fewnol gennym ni yn unig.
Swyddi gwag rhaglen Cysylltu â Gwaith
Mae Cysylltu â Gwaith yn rhaglen newydd gan lywodraeth y DU sydd â’r nod o helpu pobl anabl, a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd ac anghenion cymhleth eraill, i gael gwaith.
Yn dilyn dyfarnu contractau yn ddiweddar i gyflwyno Cysylltu â Gwaith yn Wrecsam a Sir y Fflint, rydym yn chwilio am staff medrus ac ymroddedig i ymuno â’n tîm. Os oes gennych angerdd am helpu pobl i wireddu eu potensial ac os oes gennych brofiad o ddarparu cymorth i bobl ag anghenion cymhleth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Darperir hyfforddiant llawn.