Roeddwn i wedi bod mewn swydd peiriannydd saernïo am dros 16 mlynedd. Roeddwn i’n credu y byddwn i yno am oes, ond dechreuais gael problem efo fy mraich, ac fe arweiniodd hynny at golli fy swydd.

Dyma’r tro cyntaf i mi fod allan o waith drwy gydol fy oes, ac fe wnaeth fy sigo. Ro’n i’n credu y byddwn i’n symud i swydd arall yn hawdd, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Doeddwn i ddim yn gallu gwneud y swydd gorfforol ro’n i wastad wedi’i wneud.

Ro’n ar chwâl, yn llanast. Daeth pethau i’r pwynt lle nad o’n i’n gallu dod o’r gwely. Es i weld y meddyg a ches fy nghyfeirio at therapydd a roddodd fi mewn cysylltiad gyda WorkWell.

Digwyddodd y cyfan yn sydyn iawn. Anfonodd y therapydd fy manylion draw ar ddydd Llun, a chefais fy nghyfarfod cyntaf gyda fy Arbenigwr Cyflogaeth, Pete, o fewn wythnos.

Mae Pete wedi bod yn wych, alla i ddim diolch digon iddo, mae wedi bod yn arbennig efo mi. Rwy’n dioddef o orbryder ac mae cyfarfod pobl newydd yn anodd, ond teimlais wedi ymlacio yn syth. Mae wedi fy helpu llawer gyda fy hyder, a oedd yn isel iawn pan gwrddais ag ef. Doedd gen i ddim CV oherwydd roeddwn i wedi bod yn fy hen swydd am gyhyd, felly fe wnaethon ni weithio ar hynny, a helpu i adnabod beth oedd fy sgiliau trosglwyddadwy. Rwy’n gweld hyfforddwr cyn-gyflogaeth i fy helpu i gyda beth sy’n digwydd nesaf, sy’n ddefnyddiol.

Rydw i wedi ailennill ymdeimlad o hunanwerth; rwy’n teimlo’n fwy positif ac rwy’n rhoi cynnig ar bethau newydd eto. Mae fy nheulu wedi sylwi ar y gwahaniaeth hefyd; rwy’n cyfrannu at fywyd teuluol eto, ac yn gwneud pethau gyda fy wyres. Mae fy ngwraig yn dweud ei bod wedi gweld newid anhygoel ynof fi, ac mae mor ddiolchgar.

Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n gweithio byth eto. Ond rwy’n gobeithio yn y 6 mis nesaf y byddaf yn ôl yn y gwaith; rydw i eisiau bod mewn gwaith. Rwyf wedi sylweddoli nad ydw i’n dda i ddim rhagor.

Fydden i ddim yma heddiw oni bai am Work Well; diolch i chi.