Trailblazer

Cefnogaeth a therapïau er mwyn helpu i oresgyn rhwystrau at waith sy’n gysylltiedig ag iechyd

Rydym yn falch o gefnogi rhaglenni Trailblazer Llywodraeth Cymru yn Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot, gan helpu pobl sy’n wynebu heriau yn eu bywydau i symud ymlaen gyda’u hyfforddiant neu nodau gwaith.

Gallwch ymuno â Trailblazer yn eich ardal chi os ydych:

  • Yn 16 oed neu hŷn
  • Yn byw yn Sir Ddinbych neu Gastell-nedd Port Talbot
  • Allan o waith neu addysg lawn amser ar hyn o bryd.

Ar ôl i chi ymuno â’r rhaglen, gallwn gynnig therapïau un i un i helpu i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau iechyd meddwl neu gorfforol fel gorbryder, iselder neu boen cefn. Gall ein therapyddion, cwnselwyr neu ffisiotherapyddion proffesiynol eich cyfarfod wyneb yn wyneb mewn lleoliad lleol, lle gallwch gael mynediad at wyth sesiwn o gymorth yn rhad ac am ddim.