Yn 2010, sefydlodd Strategaeth Dinas y Rhyl fwyty hyfforddi newydd ar bromenâd y Rhyl, sef yr Academi Flas, i roi cyfle i bobl di-waith fagu sgiliau a phrofiad gwaith mewn amgylchfyd gwaith go iawn. Sefydlwyd Academi Flasu fel menter gymdeithasol, gyda’r holl elw o’i gweithgarwch masnachol yn cyfrannu at gynorthwyo, hyfforddi a mentora staff, hyfforddeion a gwirfoddolwyr. O 2010 i 2015, cymerodd 200 o bobl gyda rhwystrau i waith ran yn y gweithgareddau dysgu a gwaith yn adeilad ysbrydoledig ac unigryw Blas. Galluogodd dros 40 o’n cyfranogwyr i gael gwaith parhaol. Cynorthwywyd Blas gan Lywodraeth Cymru a chan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Cyfenter.
[wds id=”2″]