Cysylltodd Deirdre â RCS ar ôl profi poen yn ei chlun a’i phen-glin a oedd yn gwneud gweithio gartref yn gynyddol fwy anghyfforddus. Roedd treulio oriau hir wrth ei desg wedi gwaethygu’r boen hyd nes iddi orfod lleihau ei llwyth gwaith, gan effeithio ar ei hincwm. Amharodd hefyd ar ei chwsg a’i hatal rhag cerdded— rhywbeth yr oedd hi’n dibynnu arno i gefnogi ei llesiant meddyliol.
Trwy’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, cafodd Deirdre ei chyfeirio at chwe sesiwn ffisiotherapi am ddim. Roedd y rhain yn cynnwys magnetotherapi, gwaith meinwe ysgafn, symudedd cymalau, cyngor ystum ac ymarferion i’w gwneud gartref. Gwnaeth y sesiynau wahaniaeth sylweddol, ac erbyn y diwedd, roedd hi a’i therapydd yn cytuno bod ei symudedd wedi gwella tua 80%.
Rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus o ran fy symudedd nawr, rwy’n teimlo’n well yn fy hun, ac rwyf wedi gallu derbyn mwy o waith unwaith eto. Mae’r gefnogaeth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fy iechyd corfforol a’m llesiant.