Pan aeth fy mam yn sâl, bu fy merch yn dyst i ddamwain car ddifrifol, a chollodd fy ngŵr ei swydd – aeth y cyfan yn ormod i mi. Cefais fy llethu gan fy ngorbryder, ac ro’n i wedi cyrraedd pwynt lle nad o’n i’n gallu gwneud unrhyw beth.

Cysylltais â RCS, a ddywedodd wrthyf am y Gwasanaeth Cefnogi yn y Gwaith. Cefais fy nghofrestru’n gyflym a derbyniais fy sesiwn gwnsela gyntaf o fewn wythnos. Gyda’i gilydd, cefais chwe sesiwn wyneb yn wyneb gyda chwnselydd lleol, yn ogystal â gwiriadau rheolaidd gyda fy Nghydlynydd Cefnogi Cleient, oedd yn wych drwy gydol yr amser.

Ar y pryd roeddwn i ffwrdd o’r gwaith ac yn bryderus ynghylch fy swydd. Fe wnaeth fy Nghydlynydd fy helpu i baratoi ar gyfer cyfarfodydd absenoldeb a’m tywys drwy fy opsiynau ar gyfer dychwelyd yn ôl i’r gwaith fesul cam. Cefais fy nghyfeirio ganddi at Gyngor ar Bopeth hefyd, wnaeth fy helpu i ddeall fy hawliau o ran budd-dal. Gan fod fy rhieni yn byw gyda mi a fy nhâl wedi’i leihau, fe wnaeth y gefnogaeth yna wahaniaeth gwirioneddol.

Roedd y gwasanaeth yn amhrisiadwy – fe ddiflannodd cymaint o fy mhryderon yn sgil hynny, ac fe wnaeth fy helpu i gael mynediad at gefnogaeth ariannol nad oeddwn i’n ymwybodol y gallwn fod yn gymwys ar ei gyfer hyd yn oed. Mae’r cwnsela a’r cyngor parhaus wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fy hyder a fy ngallu i ymdopi.

Rwyf nawr yn dychwelyd yn ôl i’r gwaith yn raddol ac yn teimlo’n llawer mwy positif ynghylch y dyfodol.