Roeddwn i’n anhapus iawn yn fy swydd flaenorol, ac wrth i’m hiechyd meddwl a chorfforol ddirywio, bu’n rhaid imi adael.
Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf, felly yn wreiddiol, siaradais gyda Gyrfa Cymru a chefais fy rhoi mewn cysylltiad â Hwb Gweithio, ac yna cefais fy atgyfeirio at WorkWell Conwy.
Rydw i wedi bod yn gweithio gyda Pete, fy Arbenigwr Cyflogaeth, ers rhai misoedd. Un o’r pethau cyntaf a wnaeth oedd fy atgyfeirio at wasanaeth cwnsela, oherwydd doeddwn i ddim yn delio’n dda iawn efo pethau. Rydw i newydd orffen fy sesiynau – bu’r sesiynau’n wych ac yn help enfawr. Pe na bawn i wedi gweld cwnselydd, dw i ddim yn meddwl y buaswn yma heddiw.
Dw i ddim yn hollol barod am swydd eto, ond rydw i’n ymchwilio i’r opsiynau sydd ar gael, ac mae Pete yn fy helpu i wneud hyn. Alla’ i ddim gwneud unrhyw beth corfforol oherwydd fe fyddai gwaith o’r fath yn rhy boenus imi nawr, felly mae angen ymchwilio i’r pethau y gallaf eu gwneud – yn ddelfrydol, gweithio gartref, gan fod fy ngorbryder yn drech na fi weithiau os bydd gormod o bobl o ’nghwmpas.
Mae Pete a minnau’n cael sgwrs bob pythefnos. Mae Pete wedi bod yn fy helpu trwy ddarparu’r offer y gallaf adeiladu arnynt fesul tipyn. Rydym wedi edrych ar fy CV, rydw i wedi mynychu ffeiriau swyddi a siarad gyda chyflogwyr ac asiantaethau swyddi. Hefyd, rydw i’n dilyn cwrs cadw cyfrifon – dyma rywbeth da i’w nodi ar fy CV. Dal ati i ychwanegu ac adeiladu – dyna’r cwbl y gallaf ei wneud. Dyddiau cynnar yw hi o hyd.
Rydw i’n teimlo dipyn yn fwy cadarnhaol nawr. Rydw i’n dal i gael dyddiau gwael, ond mae hynny i’w ddisgwyl. Ond rydw i’n gwybod nawr sut i ddelio’n well â nhw. Rydw i’n well am fy helpu fy hun a delio â phethau.
Mae RCS wedi bod yn help enfawr ac mae Pete wedi bod yn wirioneddol wych.