Cefais fy rhoi ar absenoldeb salwch hirdymor ar ôl cyfres o broblemau iechyd meddwl a chorfforol. Ond ar ôl blwyddyn o beidio â gweithio, roeddwn i’n awyddus i ddychwelyd i’r byd gwaith.
Fe wnaeth y Ganolfan Waith fy nghyflwyno i WorkWell Conwy, a rhoddwyd fi mewn cysylltiad â Pete, fy Arbenigwr Cyflogaeth.
Yn wreiddiol, yr unig beth roeddwn i ei eisiau oedd help gyda hyfforddiant, ond fe ddechreuodd y ddau ohonom trwy fynd i’r afael â ’mhroblemau iechyd meddwl. Doedd fy iechyd meddwl ddim yn dda. Roeddwn i’n dioddef gorbryder ac roedd pethau braidd yn flêr. Cefais fy atgyfeirio at wasanaeth cwnsela a chefais chwe sesiwn. Bu’r cwnsela’n fuddiol iawn ac roeddwn i’n teimlo’n well wedyn.
Fe wnaeth Pete a minnau barhau i gyfarfod ac fe wnaeth fy helpu i ddiweddaru fy CV a chwilio am swyddi addas. Mae gennyf 40 mlynedd o brofiad yn gwneud gwaith adeiladu ac rydw i’n gallu troi fy llaw at bob dim, yn cynnwys gwaith trydanol, gwaith plymio a gwaith saer, felly mae fy set sgiliau’n eithaf eang. Fe aethom ati i lunio dau CV gwahanol, wedi’u teilwra ar gyfer y gwahanol swyddi roeddwn i’n awyddus i ymgeisio amdanynt.
Ymgeisiais am 15 swydd a llwyddais i gael swydd gyda’r cyfanwerthwyr Bookers yn casglu eitemau ar gyfer gwasanaeth danfon y cwmni. Contract dros dro oedd hwn ar y pryd, ond rydw i wedi cael contract parhaol erbyn hyn. Rydw i hyd yn oed yn cael hyfforddiant i fod yn Rheolwr! Mae’n lle mor ddymunol i weithio ynddo – awyrgylch teuluol braf.
Bu’r holl broses gyda WorkWell yn wirioneddol dda. Mae Pete yn wych, mae’n gymwynasgar iawn.
Rydw i’n teimlo’n dda iawn nawr. Rydw i’n dal i gael ambell ddiwrnod gwael, ond mae hynny’n naturiol. Mae fy iechyd meddwl yn well o lawer.