Siaradais ag Elisce ar y ffôn ar fore Gwener tywyll. Roedd hi’n frwdfrydig a hyderus. Roedd ei llais yn gryf ac roedd ganddi lawer o bethau positif i’w dweud am ei sefyllfa. Nid oedd hyn yn wir bob amser. Mae Elisce wedi goresgyn problemau gorbryder a hyder i gyrraedd y pwynt hwn. Mae’r cymorth y mae hi wedi ei dderbyn gan gynllun ‘Mi FEDRAF Gweithio ‘ wedi bod yn hanfodol ar lefel ymarferol yn ogystal â chymorth emosiynol.

Bu iddynt fy helpu i gael cyfweliad, ac yna fy ngyrru i Lerpwl am hyfforddiant. Dyna’r tro cyntaf i mi fod i ffwrdd o adref, ac roeddwn ar fy mhen fy hun, mewn ystafell westy yng nghanol dinas gyda phobl estron. Ond roedd fy nghyswllt allweddol yn Mi FEDRAF Gweithio ar ben arall y ffôn bob amser. Nid oeddwn ar fy mhen fy hun. Bu iddi roi tawelwch meddwl a hyder i mi. Roedd gennyf wastad rhywun i gysylltu ag o, dros y ffôn neu e-bost, pe byddwn ei angen.

Mae Elisce bellach yn gweithio i gwmni telathrebu, mewn rôl weinyddol mewn swyddfa. Mae hi’n hoff o’r tîm mae hi’n gweithio â nhw, ac yn fwy nag abl o wneud ei swydd. Roedd hi’n anhapus yn ei chwmni blaenorol, a bu i’w chwnselydd ar y pryd ei chyfeirio at Mi FEDRAF Gweithio . Dywedodd ei bod wedi synnu pa mor gyflym y sefydlwyd y broses, a chafodd ei phlesio gyda’r bobl y bu iddi eu cyfarfod yn Mi FEDRAF Gweithio .

Roedd bob un ohonynt yn gwybod sut i’ch cefnogi chi yn y ffordd gywir. Siaradais lawer yn ein cyfarfod cyntaf, roedden nhw eisiau deall fy nghefndir a fy adnabod fel person; bu iddynt roi ystyriaeth i fy mhrofiad.

Nawr, mae RCS yn sefydlu cwnsela am ddim ar gyfer Elisce y tu allan i waith, i barhau i adeiladu ei hunan-hyder a goresgyn ei gorbryder.

Mae’r cymorth rwy’n ei dderbyn gan fy nghyswllt allweddol yn RCS yn wych. Nid yw hi’n gwneud dim o’i le. Mae hi wastad yno i mi. Diolch.