Mae RCS yn falch iawn o fod wedi derbyn gwobr drwy gronfa grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru ar gyfer gwefan ddwyieithog newydd, gyda’r nod o drawsnewid y dirwedd gyflogaeth i bobl gydag anableddau ac anghenion ychwanegol.
Bydd y wefan yn darparu llwyfan hygyrch lle gall pobl anabl ddod o hyd i gyfleoedd swyddi ystyrlon, hygyrch, mewn amgylcheddau gwaith addas, a lle gall cyflogwyr recriwtio talent amrywiol a manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael.
Mae pobl anabl yn y DU ddwywaith yn fwy tebygol na phobl nad ydynt yn anabl o fod yn ddi-waith, a theirgwaith yn fwy tebygol o fod yn anweithredol yn economaidd. Mae chwilio am swydd yn her fawr i ymgeiswyr anabl, sy’n creu 60% yn fwy o geisiadau swyddi na phobl nad ydynt yn anabl – ond eto, dim ond hanner yr ymgeiswyr anabl sy’n cael cyfweliad, mewn cymhariaeth â dau draean o ymgeiswyr nad ydynt yn anabl. Cymru sydd â’r bwlch mwyaf o ran cyflogaeth i bobl anabl yn y DU ar hyn o bryd, gyda gwahaniaeth 31%-pwynt rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl.
Bydd y safle’n annog cyflogwyr i hysbysebu eu swyddi gwag mewn man ar-lein pwrpasol, cynhwysol, ac yn eu cyfeirio at hyfforddiant ac adnoddau i helpu busnesau i greu amgylcheddau gwaith croesawgar.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phobl anabl a chyflogwyr i ddylunio a datblygu’r safle, a fydd yn canolbwyntio ar ogledd Cymru yn gyntaf.
Byddem hefyd wrth ein bodd yn clywed gan pobl a hoffai ein helpu ni i ddatblygu ein llwyfan hurio cynhwysol. Bydd y llwyfan hwn yn adnodd unigryw ar gyfer gogledd Cymru, wedi’i fwriadu ar gyfer helpu busnesau i recriwtio talent amrywiol a rhoi mynediad i bobl anabl sy’n chwilio am waith i gael mynediad at gymuned o gyflogwyr cynhwysol. Cymerwch bum munud i gwblhau ein harolwg os gwelwch yn dda: bydd eich adborth yn ein helpu ni i greu adnodd sy’n bodloni anghenion pawb.