Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno’r rhaglen Cysylltu â Gwaith newydd ar ran cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam, gan helpu pobl leol i oresgyn rhwystrau rhag cael gwaith a symud ymlaen i swyddi cynaliadwy.
Wrth i ni baratoi i lansio’r gwasanaeth, rydym yn recriwtio ar gyfer nifer o swyddi newydd ar draws Sir y Fflint a Wrecsam, gan gynnwys:
- Hyfforddwyr Swyddi Cysylltu â Gwaith
- Arweinydd Tîm Cysylltu â Gwaith
Ewch i’r dudalen swyddi gwag i gael mwy o wybodaeth ac i lawrlwytho’r pecynnau swyddi.
Eisiau gwybod mwy? Ymunwch â’n Digwyddiad Recriwtio Cysylltu â Gwaith ar-lein
Rydym hefyd yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y swyddi:
16 Tachwedd, 12:30pm. Ar-lein
Cofrestrwch yma
- Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Trosolwg o Cysylltu â Gwaith
- Gwybodaeth am y swyddi sydd ar gael
- Mewnwelediadau gan gydweithwyr sydd eisoes yn gweithio mewn swyddi tebyg
- Cyfle i ofyn cwestiynau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar recruitment@rcs-wales.co.uk.