Gwahoddir cyflogwyr i ymuno â Pave cyn y lansiad ym mis Ionawr

Mae gwefan recriwtio gynhwysol newydd, Pave, ar fin cael ei lansio ledled Gogledd Cymru ym mis Ionawr 2027, ac mae cyflogwyr bellach yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.

Bydd Pave yn cysylltu ceiswyr gwaith amrywiol â chyflogwyr sydd wedi ymrwymo i greu gweithleoedd hygyrch a chynhwysol. Bydd cyflogwyr sy’n ymuno â Pave yn gallu hysbysebu swyddi gwag, cyrraedd grŵp ehangach o ymgeiswyr, a chael mynediad at adnoddau a chymorth i helpu i ddenu, recriwtio a chadw talent amrywiol.

Er mwyn cefnogi cyflogwyr cyn y lansiad, rydym yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein ar gyfer cyflogwyr Pave. Yno, gall sefydliadau ddysgu mwy am y wefan, darganfod sut i ddod yn gyflogwr Pave, ac archwilio’r manteision o ymuno â’r platfform.

Sesiwn Wybodaeth i Gyflogwyr Pave

Gall cyflogwyr ledled Gogledd Cymru hefyd gofrestru eu diddordeb mewn dod yn gyflogwr Pave rwan, er mwyn bod yn barod i ddechrau hysbysebu swyddi gwag pan fydd y wefan yn cael ei lansio ym mis Ionawr 2027.

Dysgwch fwy am Pave a chofrestrwch eich diddordeb: https://rcs-wales.co.uk/helping-businesses/pave/

Os na allwch fynychu’r sesiwn wybodaeth ond yr hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â ni yn pave@rcs-wales.co.uk.