Rydym yn falch o gyhoeddi diweddariad ar ein prosiect gwefan recriwtio cynhwysol, sy’n cymryd cam arall ymlaen.
Yn gynharach eleni, llwyddodd RCS i sicrhau cyllid drwy Gronfa Grantiau Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru i ddatblygu llwyfan recriwtio dwyieithog newydd. Nod y wefan yw helpu pobl anabl a phobl ag anghenion ychwanegol i ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth hygyrch, gan gefnogi cyflogwyr i gysylltu â thalent amrywiol.
Ers hynny, rydym wedi bod yn brysur yn siarad gyda phobl sy’n chwilio am waith a chyflogwyr i ddeall yr hyn y maent yn dymuno’i gael o’r llwyfan. Diolch enfawr i bawb sydd wedi rhannu eu barn drwy ein harolygon, grwpiau ffocws a chyfweliadau – mae eich adborth yn ein helpu i ddatblygu rhywbeth sy’n gweithio ar gyfer y bobl sy’n ei ddefnyddio.
Un rhan allweddol o’r prosiect hwn yw gwrando ar y bobl a fydd yn defnyddio’r llwyfan. Dros y misoedd diweddar, rydym wedi bod yn ymgynghori â phobl sy’n chwilio am waith a chyflogwyr i ddeall yn well beth sydd ei angen arnynt gan wefan recriwtio gynhwysol.
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd yr amser i rannu eu meddyliau drwy ein harolygon, grwpiau ffocws a chyfweliadau. Mae eich adborth yn helpu i lunio’r llwyfan a sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cyflogwyr a phobl sy’n chwilio am waith.
Rydym hefyd yn falch iawn o fod wedi penodi Tropic fel ein partner datblygu gwe. Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo ar y wefan, ac rydym yn dechrau llunio’r brand a’r enw hefyd.
Mae llawer mwy i ddod, felly cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r prosiect ddatblygu.
Dysgwch fwy am y prosiect a’r cyllid yma.