Mae RCS yn falch o fod yn gweithio gyda Cymru Iach ar Waith ar brosiect allweddol i gael gwell dealltwriaeth o brofiadau, iechyd ac anghenion llesiant gweithwyr sydd yn 50+ yng Nghymru.
Ar draws Cymru, mae gweithwyr 50+ yn cynrychioli cyfran sylweddol a chynyddol i’r gweithlu. Er bod y grŵp hwn yn dod â sgiliau, gwybodaeth a phrofiad i’r gweithle, mae llawer hefyd yn wynebu heriau penodol, gan gynnwys rheoli cyflyrau iechyd, cydbwyso cyfrifoldebau gofalu, addasu i dechnolegau gweithle sy’n newid a goresgyn stereoteipiau neu wahaniaethu sy’n gysylltiedig ag oedran.
Mae cefnogi gweithwyr 50+ i aros yn iach, yn hyderus, ac i ymddiddori yn eu gwaith yn hanfodol i gadw sgiliau a gwybodaeth, cefnogi heneiddio iach a chyfrannu at wydnwch economaidd ledled Cymru.
Nod y prosiect hwn yw dysgu’n uniongyrchol gan weithwyr 50+ am eu profiadau o weithio, yr heriau y maent yn eu hwynebu a’r cymorth su’n eu helpu i gadw’n iach, hyderus ac i ymddiddori yn eu gwaith.
Bydd cyfres o weithdai ac arolygon ar-lein yn casglu mewnwelediadau gan weithwyr hŷn, a fydd yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth gliriach o’r hyn sydd ei angen ar weithwyr hŷn i ffynnu yn y gwaith a bydd yn llywio datblygiad adnoddau a chanllawiau ymarferol ar gyfer gweithleoedd ledled Cymru.
“Mae gwaith da yn llesol ar gyfer iechyd a llesiant, ac mae’n hollbwysig bod gan weithleoedd yr adnoddau i gefnogi gweithwyr drwy gydol eu bywydau gwaith. Bydd y prosiect hwn yn darparu mewnwelediad gwerthfawr i brofiadau pobl sy’n 50 oed a hŷn yng Nghymru, gan helpu i nodi beth sy’n cefnogi cyflogaeth iach, gwerth chweil a chynaliadwy. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda gweithwyr a chyflogwyr ledled Cymru i helpu i greu gweithleoedd sy’n iachach, yn fwy cynhwysol ac yn gyfeillgar i bobl o bob oedran lle gall pawb ffynnu.” Oliver Williams, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ac Arweinydd Cymru Iach ar Waith, Iechyd Cyhoeddus Cymru
“Gan fod pobl yn byw ac yn gweithio’n hirach, mae’n hanfodol ein bod yn deall anghenion newidiol gweithwyr wrth iddynt heneiddio, a’n bod yn rhoi’r mecanweithiau cymorth cywir ar waith fel y gallwn barhau i elwa o’u sgiliau a’u profiad.” Rydym yn edrych ymlaen at glywed mewnwelediadau a phrofiadau pobl a defnyddio’r rhain i greu canllawiau ac adnoddau ymarferol a fydd yn helpu cyflogwyr i greu gweithleoedd iachach a mwy cynhwysol.” Ali Thomas, Prif Swyddog, RCS Cymru
Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan, gan gynnwys dyddiadau gweithdai a dolenni i arolygon, yn cael ei rhannu yn yr wythnosau nesaf.