Arwain y Ffordd: Statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd wedi’i Adnewyddu

Disability Confident Leader logo

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi bod yn llwyddiannus wrth adnewyddu ein statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, y lefel uchaf posibl, sy’n cydnabod ein hymrwymiad hyd at 2028.

Mae cynllun Hyderus o ran Anabledd yn creu mudiad o newid, gan annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a chymryd camau i wella sut maen nhw’n recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl. Mae dod yn Hyderus o ran Anabledd yn gyfle nodedig i ddangos arweinyddiaeth a sefydlu eich hun fel cyflogwr sy’n blaenoriaethu cynhwysiant anabledd.

Mae’r achrediad hwn yn dangos ein hymroddiad i greu gweithle cynhwysol lle gall pob un o’n gweithwyr ffynnu. Fel sefydliad sy’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ers tro, hoffem annog cyflogwyr eraill i gychwyn ar eu taith eu hunain.

Dewch i ni weithio gyda’n gilydd i greu gweithleoedd sy’n fwy cefnogol a hygyrch i bawb.