Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn sefydliad sector cyhoeddus sy’n gyfrifol am gadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt, a threftadaeth ddiwylliannol Eryri, wrth hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer mwynhad a dealltwriaeth y cyhoedd. Mae’r sefydliad wedi ymrwymo i gefnogi ei weithlu ac mae’n cydnabod rôl llesiant mewn cynnal tîm brwdfrydig ac iach.

Yr Her Llesiant

Cyn cydweithio â RCS, ychydig iawn o ffocws strwythuredig oedd ar lesiant yn y gweithle. Er bod ei bwysigrwydd yn cael ei gydnabod, ychydig iawn o gynlluniau oedd ar waith, a dim fframwaith clir i gefnogi iechyd meddwl staff nac annog ymgysylltiad.

Nododd y sefydliad angen i ddatblygu ymwybyddiaeth staff, cyflwyno gweithgareddau ymarferol, a chreu amgylchedd mwy cefnogol ar gyfer staff.

Beth Wnaethom Ni

Fe wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ffurfio partneriaeth gyda RCS i ddatblygu ei ymagwedd tuag at lesiant. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant Hyrwyddwr Llesiant, hyfforddiant ar gyfer rheolwyr, a sesiynau megis myfyrio i gefnogi lles staff.

Pennwyd Hyrwyddwr Llesiant i weithredu fel pwynt cyswllt, helpu i godi ymwybyddiaeth ac annog ymgysylltiad. Fe wnaeth y sefydliad hefyd gyflwyno ystod o fentrau syml ond effeithiol, gan gynnwys clwb cerdded, adnoddau ioga a chysgu, a chlwb llyfrau i staff.

Yr Effaith

Mae’r newidiadau hyn wedi helpu i gynyddu dealltwriaeth ar draws y sefydliad ac wedi rhoi’r hyder i staff allu cyflwyno a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd.

Mae yna bellach ymdeimlad gwell o fod yn agored ynghylch llesiant, gyda mwy o gyfloed i staff gael cysylltu a chefnogi ei gilydd. Mae cyflwyno Hyrwyddwr Llesiant wedi darparu pwynt cyswllt clir ar gyfer arweiniad a chymorth.

“Mae RCS wedi bod yn wych—yn gymorth mawr bob amser ac yn ymateb unrhyw ymholiadau’n gyflym. Mae’r gefnogaeth wedi rhoi’r hyder i ni ddechrau gwneud newidiadau positif ac ymgorffori llesiant yn ein gweithle.”

Emily Roberts, Cynghorydd Adnoddau Dynol dan Hyfforddiant