Hyrwyddo Lles yn y Gweithle
Mae Antur Waunfawr yn fenter gymdeithasol yng Ngogledd Cymru sy’n darparu gofal, cefnogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith ystyrlon i dros 65 o oedolion ag anableddau dysgu. Gyda thîm ymroddedig o dros 100 o staff, mae’r sefydliad wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol a chefnogol, lle gall gweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth ffynnu.
Yr Her Lles
Roedd cefnogi lles gweithwyr yn flaenoriaeth gynyddol i Antur Waunfawr, yn enwedig wrth i ofynion y sector gofal barhau i gynyddu. Cydnabu’r sefydliad yr angen i roi’r offer i reolwyr gefnogi staff yn effeithiol wrth adeiladu diwylliant a oedd yn hyrwyddo diffuantrwydd, gwydnwch ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ar draws y tîm cyfan.
Beth Wnaethom Ni
I gryfhau eu dull, ffurfiodd Antur Waunfawr bartneriaeth ag RCS ar gyfer hyfforddiant a chefnogaeth arbenigol. Cymerodd staff ran mewn hyfforddiant Hyrwyddwyr Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Lles, a wellodd ddealltwriaeth o iechyd meddwl a sut i gefnogi cydweithwyr yn effeithiol.
Helpodd RCS y sefydliad hefyd i sefydlu Hyrwyddwyr Lles yn yr adran Adnoddau Dynol, gan ddarparu pwynt cyswllt clir i staff sydd angen arweiniad neu i gael eu cyfeirio at adnoddau pellach. Derbyniodd rheolwyr hyfforddiant ychwanegol drwy raglenni RCS fel Goruchwylio a Pherfformiad, gan eu helpu i arwain gydag empathi a hyder. Mae rheolwyr bellach yn cael eu hannog i fynd ati i barhau â’r hyfforddiant hwn i gynnal amgylchedd gwaith cefnogol.
Yr Effaith
Mae’r mentrau lles, a gefnogir gan RCS, wedi cael effaith fesuradwy. Mae Antur Waunfawr wedi cynnal cyfradd trosiant staff eithriadol o isel o ddim ond 5% – yn sylweddol is na’r cyfartaledd o 30% yn y sector gofal. Mae’r gyfradd cadw staff uchel hon wedi cyfrannu at weithlu mwy sefydlog, ymgysylltiedig a chynhyrchiol.
Mae mewnbwn RCS wedi cryfhau arferion dyddiol y sefydliad, gan greu llwybrau cliriach ar gyfer cefnogi staff a chyfrannu at weithle mwy gwydn a chadarnhaol yn gyffredinol. Mae sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso i godi pryderon wedi ein helpu i greu diwylliant agored a thryloyw lle mae pobl yn teimlo eu bod wir yn cael eu cefnogi.
Margaret Jones, Rheolwr Cydymffurfiaeth ac Ansawdd