Ymunwch â’n tîm Cysylltu â Gwaith newydd yn Sir y Fflint a Wrecsam

Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno’r rhaglen Cysylltu â Gwaith newydd ar ran cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam, gan helpu pobl leol i oresgyn rhwystrau rhag cael gwaith a symud ymlaen i swyddi cynaliadwy.

Wrth i ni baratoi i lansio’r gwasanaeth, rydym yn recriwtio ar gyfer nifer o swyddi newydd ar draws Sir y Fflint a Wrecsam, gan gynnwys:

  • Hyfforddwyr Swyddi Cysylltu â Gwaith
  • Arweinydd Tîm Cysylltu â Gwaith

Ewch i’r dudalen swyddi gwag i gael mwy o wybodaeth ac i lawrlwytho’r pecynnau swyddi.

Eisiau gwybod mwy? Ymunwch â’n Digwyddiad Recriwtio Cysylltu â Gwaith ar-lein
Rydym hefyd yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y swyddi:

16 Tachwedd, 12:30pm. Ar-lein
Cofrestrwch yma

  • Bydd y sesiwn yn cynnwys:
  • Trosolwg o Cysylltu â Gwaith
  • Gwybodaeth am y swyddi sydd ar gael
  • Mewnwelediadau gan gydweithwyr sydd eisoes yn gweithio mewn swyddi tebyg
  • Cyfle i ofyn cwestiynau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar recruitment@rcs-wales.co.uk.