Wedi i mi golli fy mam, mynd drwy enedigaeth drawmatig, a bron colli fy mab, ro’n i’n cael amser caled gydag iselder ôl-enedigol. Ceisiais gadw i fynd drwy daflu fy hun i mewn i fy ngwaith, ond ar ail ben-blwydd marwolaeth Mam, fe wnaeth y cyfan ddal i fyny efo mi. Ro’n i’n teimlo wedi fy llethu’n llwyr ac ro’n i’n gwybod fy mod i angen cymorth.

Fe wnaeth fy meddyg teulu fy nghyfeirio at RCS a’r Gwasanaeth Cefnogi yn y Gwaith, a chysylltais â hwy’n syth. O fewn wythnos, cefais fy sesiwn gwnsela gyntaf. Doeddwn i erioed wedi cael therapi o’r blaen ac ro’n i’n bryderus ynghylch hynny, ond cyn gynted ag y cwrddais â fy nghwnselydd, ro’n i’n teimlo’n gartrefol. Treuliais yr awr gyfan yn siarad – fe wnaeth popeth lifo allan. Dros y chwe sesiwn, sylweddolais faint ro’n i wedi bod yn dal arno ac ro’n i’n gallu gadael fynd i gymaint o boen a galar oedd heb ei ddatrys.

Ochr yn ochr gyda chwnsela, ro’n i hefyd yn cael sesiynau dal fyny rheolaidd gyda fy Nghydlynydd Achos, Jess. O’n galwad cyntaf, ro’n i’n teimlo’n ddiogel, ac yn teimlo bod rhywun yn fy neall. Roedd hi’n rhyddhad gallu siarad gyda rhywun oedd yn gwrando ac yn cynnig cyngor ysgafn ar yr adeg ro’n i ei angen fwyaf.

Fe wnaeth y gefnogaeth a dderbyniais newid fy mywyd yn llwyr. Rwy’n teimlo mwy o lonyddwch, yn ysgafnach ac mewn lle gwell nag rwyf wedi bod ers blynyddoedd. Mae fy ngorbryder yn haws i’w reoli, ac o’r diwedd rwy’n teimlo’n heddychlon.

Buaswn yn argymell RCS a’r Gwasanaeth Cefnogi yn y Gwaith i bawb – fe wnaeth wirioneddol newid fy mywyd a byddaf yn ddiolchgar bob amser am y cymorth a dderbyniais.