Hyrwyddo Lles yn y Gweithle

Mae Coatech yn gwmni yn y Rhyl sy’n arbenigo mewn pennu rhagfanylion a gosod systemau arwyneb resin o ansawdd uchel. Gan wasanaethu cleientiaid diwydiannol, masnachol a domestig ledled y DU, mae’r busnes yn gweithredu gyda thîm agos o 6–8 aelod o staff, yn dibynnu ar y prosiect.

Yr Her Lles

Cydnabu Coatech bwysigrwydd creu amgylchedd gwaith cefnogol i leihau straen, hyrwyddo iechyd meddwl a hybu morâl y tîm. Gyda thîm bach, roedd y cyfarwyddwyr yn deall y gallai hyd yn oed newidiadau bach gael effaith fawr ar les a pherfformiad cyffredinol.

Beth Wnaethom Ni

Ceisiodd cyfarwyddwyr Coatech gefnogaeth gan RCS, gan fynychu sawl sesiwn hyfforddi, yn cynnwys Ymwybyddiaeth o’r Menopos, Hyrwyddwyr Lles a Rheoli Timau Trwy Newid. Darparodd y sesiynau hyn offer i ymgorffori llesiant ar draws y busnes.

Yn dilyn yr hyfforddiant, cyflwynodd Coatech gyfres o newidiadau ymarferol i gefnogi eu tîm. Penodwyd dau Hyrwyddwr Lles i gynnig arweiniad a hyrwyddo diwylliant o fod yn agored ynghylch iechyd meddwl. Cyflwynodd y cwmni hefyd gynllun brechu ffliw am ddim a lansio ymgyrch iechyd y gaeaf, a oedd yn cynnwys awgrymiadau lles a hetiau gaeaf i gadw morâl yn uchel.

Er mwyn annog gweithgarwch corfforol, sefydlwyd cynllun Beicio i’r Gwaith, gyda staff eisoes yn cymryd rhan. Gwnaeth Coatech atgyfeiriadau hefyd at wasanaeth Cymorth yn y Gwaith RCS i helpu staff gael mynediad at gymorth lles wedi’i deilwra. Yn ogystal, gwnaed cyfarfodydd ac arfarniadau un-i-un yn fwy rheolaidd ac maent bellach yn cael eu cynnal mewn ystafell staff wedi’i hadnewyddu i annog sgyrsiau mwy agored a chefnogol.

Yr Effaith

Mae’r mentrau hyn wedi arwain at bresenoldeb gwell, mwy o ymgysylltiad staff, a diwylliant mwy agored a chefnogol. Mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n well, ac mae diddordeb cynyddol mewn lles ar draws y tîm.

Helpodd y gefnogaeth gan RCS i roi strwythur go iawn o amgylch ein hymdrechion lles. Mae wedi gwneud gwahaniaeth amlwg yn y ffordd mae ein tîm yn teimlo ac yn perfformio.

Meddai Emma Shufflebottom, Cyfarwyddwr a Chyd-berchennog Coatech.

Gan edrych ymlaen, mae’r cwmni’n bwriadu cyhoeddi arolwg lles staff, integreiddio pynciau iechyd meddwl i gylchlythyrau, ac adolygu polisïau allweddol i ymgorffori lles ymhellach yn y gweithle.