Roedd Terri yn dioddef gyda gorbryder ac iselder, a gwyddai y byddai mynd nôl at waith yn ei helpu, ond bu i bandemig coronafeirws gychwyn ac roedd yn teimlo’n adeg heriol i fod yn chwilio am waith. Ar ôl bod yn ddi-waith am 6 mis, roedd Terri eisiau swydd rhan amser i gamu’n ôl i’r gweithle’n esmwyth, gan iddo golli ei swydd flaenorol ar ôl treulio 20 mlynedd ynddi.
Bu i fy ngweithiwr allweddol yn Mi FEDRAF Gweithio fy helpu i greu CV oedd yn benodol ar gyfer y swyddi roeddwn yn ymgeisio amdanyn nhw. Ymgeisiais am yr un swydd ddwywaith yn flaenorol ond ni chefais lwyddiant. Rwy’n credu’n gryf bod CV fwy penodol wedi fy helpu i sicrhau’r swydd.
Roedd Terri yn eithaf pryderus am reoli yn y gwaith, ond yn cael tawelwch meddwl yn y ffaith bod ei gweithiwr allweddol ar ben arall y ffôn, ac y byddai’n cysylltu’n rheolaidd i ddarparu cymorth parhaus.
Mae’r swydd wedi rhoi synnwyr o bwrpas i mi ac mae’n teimlo’n dda cael ennill fy arian fy hun. Mae fy hunan-hyder yn well y rhan fwyaf o’r amser, er fy mod yn dal i gael dyddiau isel. Teimlaf, heb help, na fyddwn wedi mynd i fewn i waith, ac ni allaf ddiolch digon i Mi FEDRAF Gweithio , am bob dim.