Ychydig flynyddoedd yn ôl, doedd Mandy prin yn gallu rhedeg ac roedd yn dioddef gyda phoen yn y glun a’r pen-glin oedd yn effeithio ar ei hiechyd corfforol a meddyliol. Ar y pryd, roedd yn gweithio i’r Lleng Brydeinig Frenhinol ac roedd eisiau hyfforddi ar gyfer marathon, ond roedd y boen yn ei hatal ac roedd hyd yn oed yn gwneud gyrru’n anodd. Awgrymodd ffrind y dylai gysylltu gyda RCS, felly penderfynodd roi caniad iddynt.
Cafodd Mandy ei chyfeirio at y Gwasanaeth Cefnogaeth yn y Gwaith a chafodd gyfarfod gyda Steve, ei chydlynydd achos. Gwrandawodd yn ofalus i’r hyn roedd hi ei angen a chynnig dewis o ffisiotherapyddion iddi. Dewisodd ffisio chwaraeon yng Nghonwy a dechreuodd ar chwe sesiwn am ddim, ynghyd â thechnegau hunan-gymorth dilynol.
Fe wnaeth y driniaeth wahaniaeth anferthol. Gyda’r ymarferion a’r cyngor a dderbyniodd, o’r diwedd roedd Mandy’n gallu dechrau hyfforddi, ac aeth ymlaen i gwblhau Marathon Llundain – yn araf, ond yn llawn balchder. Cododd £7,000 ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol, rhywbeth mae’n ddweud na fyddai wedi bod yn bosib heb y gefnogaeth a’r ffisiotherapi a dderbyniodd.
Roedd y gwasanaeth yn gyflym, yn gefnogol ac yn rhad ac am ddim. O’r tîm gweinyddol i’r therapydd, fe wnaeth pawb helpu i wneud iddi deimlo’n gysurus. I Mandy, y peth anoddaf oedd codi’r ffôn i wneud yr alwad – wedi hynny roedd popeth yn teimlo dan reolaeth.
Nid yn unig mae fy iechyd corfforol wedi gwella, ond rwyf hefyd wedi colli 3 stôn o ran pwysau, ac mae fy iechyd meddyliol wedi gwella’n fawr. Rydw i wedi dod o hyd i fy lle ‘hapus’. Yr alwad i RCS y diwrnod hwnnw wnaeth fy rhoi ar y trywydd cywir ac mae’n llythrennol wedi newid fy mywyd!