Roeddwn yn profi problemau o fewn fy swydd fel rheolwr swyddfa, yn dilyn llawdriniaeth ar yr asgwrn cefn, a newidiadau mewn rheolaeth. Yn gryno, gwaethygodd fy lefelau straen, ac roeddwn yn dioddef gyda meigrynnau, datblygais asthma ac roeddwn mewn llawer o boen.
Daeth y sefyllfa yn y gwaith yn annaliadwy, ac ar ôl datblygu gorbryder sylweddol a phrofi pyliau o banig, es i ar gyfnod o absenoldeb; sylweddolais fy mod yn llithro’n gyflym i iselder. Roeddwn yn teimlo fel methiant am beidio â gallu cydbwyso fy swydd â’m hiechyd; roeddwn yn beio fy hun. Roedd fy Meddyg yn gefnogol iawn, ac yn gwrando arnaf yn ystod fy apwyntiadau emosiynol. Yn un o’r apwyntiadau hyn, a minnau ar fy ngwaethaf, rhoddodd fanylion RCS i mi… gadewais ei ystafell gyda rhif ffôn RCS yn un llaw, a phresgripsiwn ar gyfer gwrth-iselyddion yn y llall.
Treuliais rai diwrnodau yn magu’r egni a’r hyder i ffonio RCS, ond rwy’n hynod falch fy mod wedi gwneud hynny. Ni roddais y presgripsiwn i’r fferyllydd, ac nid oeddwn angen y gwrth-iselyddion gyda’r help a dderbyniais gan RCS.
Roeddwn mewn sefyllfa lle nad oeddwn yn gwybod beth i’w wneud, nid oeddwn yn gallu gweld ffordd allan, ond o’r alwad gyntaf gydag RCS, sylweddolais fod rhywun yno i wrando, yn deall yr hyn yr oeddynt yn ei ddweud, ac yn gallu gweld bod opsiynau ar gael i mi; llwyddasant i dawelu fy meddwl nad fy mai i oedd hyn. Dywedwyd wrthyf y byddwn yn gallu cael 6 sesiwn am ddim, ac ar ôl cwrdd â’r ymgynghorydd, lluniasom gynllun er mwyn symud ymlaen. Rhoddodd y sesiynau cwnsela amser i mi ddod i drefn yn bersonol unwaith eto, a phenderfynais greu llwybr newydd i mi fy hun. Ni sylweddolais pa mor ddwys oedd y sefyllfa tan i mi oresgyn y sefyllfa. Mae siarad yn agored yn helpu i roi eglurder i chi.
Mae Cymorth yn y Gwaith wedi rhoi hwb i fy hyder, wedi fy helpu i feddwl ar lefel wahanol a phrosesu’r holl beth; roeddynt hefyd yn gallu adnabod yr adeg iawn i mi ddechrau gweithio eto, ac awgrymu y dylwn ymgeisio am swydd swyddog cefnogi gydag RCS ei hun. Rwy’n falch fy mod wedi ymgeisio ac wedi derbyn y swydd. Rwy’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd lle gallaf wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Rwy’n teimlo’n gryf am y gwaith mae RCS yn ei wneud, a byddaf yn canu eu clodydd tan ddydd y farn.