Roedd gennyf gefndir da yn y diwydiant lletygarwch, ond pan ddaeth y pandemig COVID, collais fy swydd.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, dechreuais ddatblygu problemau iechyd meddwl. Doeddwn i ddim yn teimlo’n fi fy hun o gwbl. Cefais gnoc ar ôl cnoc wrth ymgeisio am swyddi, ac fe wnaeth hynny waethygu fy iechyd meddwl. Bûm yn ddi-waith am bron i bedair blynedd, a chafodd hynny effaith ddifrifol arnaf.
Roeddwn i eisoes yn gweithio gyda Prime Cymru. Awgrymodd Prime Cymru y dylwn gysylltu â WorkWell Conwy. Cefais fy rhoi mewn cysylltiad â Debbie, fy Arbenigwr Cyflogaeth. Roeddwn i’n teimlo’n barod i weithio. Roeddwn i’n gwybod y byddai dychwelyd i’r byd gwaith yn fy helpu i ddod ataf fy hun.
Cefais help Debbie i dwtio a diweddaru fy CV, ac edrychodd y ddau ohonom ar y mathau o swyddi a fyddai orau imi. Dechreuais ymgeisio am swyddi unwaith eto, ac o fewn pedair wythnos cefais gyfweliad gyda Gwesty St George’s yn Llandudno. Roedd cynrychiolwyr y gwesty mewn ffair swyddi roeddwn i’n bwriadu mynd iddi yr wythnos honno – cefais gyfweliad yn y fan a’r lle a llwyddais i gael y swydd!
Roedd fy nghymhwyster diogelwch bwyd wedi dod i ben erbyn yr adeg honno, ond cynigiodd Prime Cymru dalu am ei adnewyddu, a oedd yn help enfawr.
Ar ôl bod yn ddi-waith am bedair blynedd, o’r diwedd roeddwn i’n gweithio eto. Gwaith rhan-amser a gefais ar y dechrau, ond rydw i’n ddiwyd ac yn ddibynadwy, ac o fewn mis cafodd fy enw ei gynnig ar gyfer swydd fel prif borthor cegin amser llawn – swydd y llwyddais i’w chael. Rhyddhad enfawr.
Rydw i’n ôl yn gweithio ers bron i flwyddyn ac rydw i’n llawer hapusach. Mae fy iechyd meddwl a’m llesiant cyffredinol yn well o lawer.
Rydw i’n dal i fod mewn cysylltiad â WorkWell, oherwydd dyw’r cymorth ddim yn dod i ben ar ôl ichi ddod o hyd i swydd. Rydym yn cadw mewn cysylltiad bob ychydig wythnosau i wneud yn siŵr fy mod yn iawn – ac rydw i’n ddiolchgar iawn am hynny.