Roedd Daniel Davies, cogydd hyfforddedig 27 oed o Brestatyn, yn profi pryder a hwyliau isel o achos treulio pum mis heb waith, ar ôl i achos o fwlio mewn swydd flaenorol effeithio ar ei iechyd meddwl. Cymerodd ei fywyd dro newydd pan gyfeiriodd y ganolfan waith ef at RCS, lle’r oedd arbenigwr cyflogaeth Mi FEDRAF Gweithio ymroddedig wedi’i helpu i ddod o hyd i waith gyda’r tîm arlwyo yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd:

Cafodd fy hyder a’m pryder eu dinistrio ar ôl derbyn sawl cnoc ac roeddwn i’n teimlo fel rhoi’r gorau iddi. Ond roedd fy arbenigwr cyflogaeth Mi FEDRAF Gweithio yn anhygoel ac yn helpu i hybu fy hunan-barch drwy fy anfon ar gwrs hybu hyder.

Roedd hi’n rhagweithiol iawn ac yn deall pa fath o waith fyddai’n addas i mi, yn hytrach na’m gwthio tuag at unrhyw hen swydd.

Cymerodd Daniel y rôl yn Ysbyty Glan Clwyd yn gweithio ar wardiau Covid-19 ychydig cyn y cyfnod clo ym mis Mawrth. Cyn hir, roedd wedi dal yr haint ei hun. Ond ar ôl “wythnosau gwaethaf” ei fywyd yn ymladd y salwch, dychwelodd i’r gwaith am ei fod yn dweud ei fod “yn rhoi pwrpas iddo.”

Mae’r rhaglen wedi helpu i roi rhagolygon mwy cadarnhaol i mi ar fywyd. Dwi wedi dechrau gwneud ymarfer corff ac wedi dechrau mwynhau a gofalu amdanaf fy hun eto. Rwy’n credu y gall Mi FEDRAF Gweithio helpu pobl, waeth beth yw eu problemau.