Ro’n i’n cael gwaith yn gynyddol anodd – roedd y pwysau, yr oriau hir a’r cyfrifoldebau oedd yn cynyddu yn fy ngadael yn teimlo dan straen ac wedi ymlâdd. Ro’n i’n eistedd wrth fy nesg am amser rhy hir a dechreuais ddatblygu poen yn fy nghefn a’m hysgwyddau. Ro’n i’n cysgu’n wael, roedd fy hwyliau’n isel ac ro’n i’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio.
Drwy RCS a’r Gwasanaeth Cefnogi yn y Gwaith, cefais fy nghyfeirio at osteopath sy’n arbenigo mewn poen yn y gwddf a iechyd menywod. Derbyniais chwe sesiwn am ddim, oedd yn canolbwyntio ar les corfforol ac emosiynol. Roedd y sesiynau’n cyfuno triniaeth ymarferol gydag ymarferion anadlu, ymarferion ymestyn a chyngor ar ffordd o fyw er mwyn cefnogi rheoli straen a chydbwysedd hormonau.
Roedd y sesiynau yn drawsffurfiol – fe wnaethant ystwytho’r boen a fy helpu i ddeall sut roedd straen yn effeithio ar fy nghorff. Nawr, mae gen i’r adnoddau i adnabod arwyddion gorweithio’n gynnar a chymryd camau cyn iddo effeithio ar fy iechyd eto.
Cyn hyn, fydden i byth wedi ystyried therapi amgen a buaswn fwy na thebyg wedi troi at feddyginiaeth neu amser i ffwrdd o’r gwaith. Yn lle hynny, dysgais sut i flaenoriaethu fy lles a chymryd cam yn ôl pan mae angen.
Roedd yr osteopath yn wych, ac roedd yr holl broses gyda RCS yn esmwyth o’r dechrau i’r diwedd. Alla’ i ddim canmol y gwasanaeth ddigon – mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fy iechyd a fy agwedd at bethau.