Estyniad i Wasanaeth Cymorth yn y Gwaith

Megaphone graphic

Rydym wrth ein bodd o fod wedi derbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith wedi sicrhau cyllid am ddwy flynedd ychwanegol, bellach wedi’i ymestyn tan Fawrth 2027.

Mae’r gwasanaeth Cymru gyfan wedi cael ei gynnal ers 2023, a dros y cyfnod hwnnw, mae’r RCS wedi darparu cymorth yn y gwaith i 3,149 o weithwyr ar draws Gogledd, Gorllewin a De-orllewin Cymru gan helpu dychweliad cynnar i’r gwaith ar ôl absenoldeb salwch, neu i atal cyflwr iechyd rhag gwaethygu. Yn ychwanegol, mae dros 416 o bobl o 133 o fusnesau maint bach i ganolig wedi mynychu un neu fwy o’n gweithdai hyfforddiant, i helpu cyflogwyr i sefydlu diwylliant llesiant cadarnhaol yn y gwaith, yn ogystal â’i annog.

Gallwch ddysgu rhagor am y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith a sut i wneud defnydd ohono yma https://rcs-wales.co.uk/cy/eich-llesiant-yn-y-gwaith.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid i sicrhau bod Cymorth yn y Gwaith yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar lesiant gweithwyr yng Nghymru.