Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith ar gyfer mynd i’r afael â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol a allai fod yn effeithio ar eich presenoldeb neu’ch perfformiad yn y gwaith.
Gall ein cefnogaeth eich helpu i ddatblygu strategaethau ymdopi, lleihau pryderon neu wella eich lles corfforol drwy gael mynediad cyflym at gefnogaeth a therapïau. Gallai hyn gynnwys:
- Cwnsela neu therapïau seicolegol eraill i fynd i’r adael â chyflyrau iechyd meddwl eraill megis straen, gorbryder neu iselder.
- Cymorth a thriniaeth ar gyfer problemau cyhyrysgerbydol fel poen cefn, anafiadau straen ailadroddus neu gyflyrau eraill sy’n cyfyngu ar allu i weithio.
Gallwn hefyd roi cefnogaeth ar gyfer materion eraill a allai fod yn effeithio ar eich lles, megis problemau gyda dyled neu berthnasoedd. Mae’r holl gymorth yn rhad ac am ddim ac yn gwbl gyfrinachol.
Gallwch gyfeirio eich hun at y gwasanaeth drwy ffonio 01745 336442, neu drwy lenwi’r ffurflen gais ar-lein drwy’r linc ‘Cofrestrwch yma’ isod. Darllenwch fwy am gymhwysedd yma.
Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at bobl sy’n hunangyflogedig neu sy’n gweithio mewn busnesau bach neu ganolig (sydd â llai na 250 o staff) sydd â mynediad cyfyngedig at gymorth iechyd galwedigaethol.
Mewn rhai amgylchiadau eithriadol, gall gweithwyr y sector cyhoeddus (e.e. y GIG, awdurdodau lleol, ysgolion) neu mewn cwmnïau sydd â dros 250 o staff gael mynediad at y gwasanaeth.
Mae RCS yn darparu Cymorth yn y Gwaith yn Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Dysgwch fwy am Gymorth yn y Gwaith mewn rhanbarthau eraill yma.
Ariannir y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n wasanaeth gwych ac mae’n gwneud i chi sylweddoli pa mor bwysig yw hunanofal pan fyddwch yn dibynnu arno i redeg eich busnes.
Nid oes gen i’r geiriau, o le difrifol o dywyll i gael fy mywyd yn ôl. Heb y gofal, y gefnogaeth a’r help, nid wyf yn meddwl y byddwn i dal yma.
Mae’r gefnogaeth wedi fy helpu o ddifrif, ac fe'r oedd y chwe sesiwn y nifer perffaith ac rydym wedi trafod gymaint. Roedd y gefnogaeth gan bawb o’r cychwyn tan y diwedd yn wych, mor gyflym ac wedi gwneud argraff fawr arnaf. Mae’r gefnogaeth wedi fy helpu i weld y gallaf gymryd mwy o waith o bosib yn y dyfodol.