Mae’r gweithle yn cynnig cyfle i ni gyd gadw llygad ar ein cyd-weithwyr a allai fod yn profi heriau iechyd meddwl o ddydd i ddydd. Ond nid yw bob amser yn hawdd codi’r pwnc, neu i wybod pryd mae rhywun angen help llaw. Sut allwn ni gyflwyno sgyrsiau ynghylch iechyd meddwl yn ein gweithle? Sut allwn ni hyrwyddo diwylliant agored, lle gall pobl deimlo’n rhydd i gynnig neu dderbyn cefnogaeth?

Bydd y gweithdy hwn yn cynnig arweiniad syml a chlir ar gefnogi eraill mewn cyd-destun gwaith:

Uchafbwyntiau’r Sesiwn

  • Sut i adnabod yr arwyddion a’r symptomau o lesiant newidiol;
  • Dysgu am straen a sut mae’n ein heffeithio;
  • Yr effaith mae ein hiechyd meddwl yn ei chael arnom yn y gweithle;
  • Ystod o gyngor a thechnegau ymarferol ar gyfer cefnogi ein hunain a chyd-weithwyr

Ymholiad Gweithdy Hyfforddi

Ymholiad Gweithdy Hyfforddi

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Oriau agor yw Dydd Llun – Iau 9.30am – tan 4.30pm, Dydd Gwener 9.30am tan 4pm.