❆ Oriau agor y Nadolig ❆

Bydd RCS yn cau ar gyfer gwyliau’r Nadolig Ddydd Mawrth 24 Rhagfyr, ac yn ail-agor ddydd Iau 2 Ionawr 2025.

Os ydych yn dymuno cyfeirio at un o’n gwasanaethau, gallwch gwblhau ffurflen e-gyfeirio ar dudalen y prosiect. Efallai y bydd y dudalen gyfeirio hon yn ddefnyddiol yn y cyfamser.

Hoffai RCS ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.

Newyddion RCS

Arwain ar gyfer lles yng ngweithle heddiw.

Arwain ar gyfer lles yng ngweithle heddiw.

Beth mae arweinyddiaeth dda yn ei olygu i chi? Mae un peth yn sicr, rydym wedi dod ymhell ers dull o arwain ‘y dyn mawr’ (er na wnaeth pawb ohonyn nhw dderbyn y nodyn). Gall arweinwyr ddylanwadu cymaint ar brofiad gweithiwr, a’u hysbryd hefyd.

Cwsg: Beth yw ‘cwsg da’ a sut allwn ni gefnogi gweithwyr i gael mwy o ohono?

Cwsg: Beth yw ‘cwsg da’ a sut allwn ni gefnogi gweithwyr i gael mwy o ohono?

Ond eto, dwi’n siŵr bod pob un ohonom wedi cael cyfnodau yn ein bywyd pan rydym wedi cael trafferth cael digon o’r cwsg o ansawdd sydd ei angen arnom. Cyfnodau pan rydym wedi deffro’n teimlo’n ddiynni, yn syfrdan, yn ddryslyd ac wedi blino’n lân. Pa un a ddigwyddodd hynny ambell noson neu dros gyfnod hwy, gall achosi llawer iawn o orbryder a straen i ni. Ond beth sy’n normal? A sut allwn ni wneud yn siŵr ein bod ni’n cael digon o gwsg?

14 Diwrnod Gwrthsefyll – Awgrymiadau i hybu gwydnwch meddyliol

14 Diwrnod Gwrthsefyll – Awgrymiadau i hybu gwydnwch meddyliol

Am 14 diwrnod ym mis Tachwedd fe wnaethom rannu #14DiwrnodGwrthsefyll gwydnwch bob dydd ar ein cyfryngau cymdeithasol. Wedi’u rhoi at ei gilydd gan y seicolegydd siartredig Dr Beverly Taylor, lluniwyd yr awgrymiadau hyn i roi hwb i’ch gwytnwch meddwl wrth i ni nesáu at y tymor prysur hwn.

Pam mae ‘ffitrwydd meddyliol’ yn bwysig yn y gweithle a sut allwn ni gefnogi gweithwyr i fod yn fwy ‘ffit yn feddyliol’?

Pam mae ‘ffitrwydd meddyliol’ yn bwysig yn y gweithle a sut allwn ni gefnogi gweithwyr i fod yn fwy ‘ffit yn feddyliol’?

Mae pob un ohonom yn ymwybodol o bwysigrwydd ymarfer corff i gynnal ein ffitrwydd corfforol. Mae diwydiant cyfan wedi’i adeiladu o amgylch gwahanol fathau o ddosbarthiadau, chwaraeon a lefelau ffitrwydd i’n helpu i ennill màs y cyhyrau, lleihau màs braster, cynyddu stamina neu ffitrwydd cardiofasgwlaidd. Ond beth am ein ffitrwydd meddyliol? Wrth gwrs, mae gennym athrawon a dosbarthiadau sy’n canolbwyntio ar fyfyrdod neu weithgareddau ymlacio eraill, ond heblaw am hynny, ychydig iawn o gymorth sydd ar gael i’n cefnogi i ffynnu’n feddyliol ac aros yn ffit yn feddyliol.

Lles yn y gwaith ar gyfer Wythnos Ryngwladol Hapusrwydd yn y Gwaith

Lles yn y gwaith ar gyfer Wythnos Ryngwladol Hapusrwydd yn y Gwaith

Mae’n wythnos ryngwladol Hapusrwydd yn y Gwaith sy’n golygu ei bod hi’n bryd bod o ddifrif ynglŷn â bod yn hapus. Os ydych chi newydd rolio’ch llygaid wrth feddwl am erthygl arall yn canmol rhinweddau sesiynau ioga amser cinio, yna gallwch ddarllen ymlaen, rydych mewn dwylo diogel yma.

Datgelu cyfanswm codi arian ar gyfer Tŷ Gobaith

Datgelu cyfanswm codi arian ar gyfer Tŷ Gobaith

Bob blwyddyn mae RCS yn dewis elusen i godi arian ar ei chyfer, ac yn 2023 pleidleisiodd cydweithwyr RCS i godi arian ar gyfer Tŷ Gobaith Hope House. Mae Tŷ Gobaith Hope House yn cynnig gwasanaethau hanfodol i blant â chyflyrau sy’n peryglu bywyd a’u teuluoedd.

Prosiect cyflogadwyedd newydd yng Nghonwy

Prosiect cyflogadwyedd newydd yng Nghonwy

Mae RCS gyda phleser yn cyflwyno rhaglen cymorth cyflogaeth newydd yn ddiweddar ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl. Mae Gweithio’n Iach ar gael i bobl sy’n byw yng Nghonwy, sy’n ddi-waith ar hyn o bryd, ac sydd â chyflwr iechyd meddwl, megis iselder neu hwyliau isel, gorbryder neu byliau o banig.

Llwyddiant codi arian rhediad RCS Dark

Llwyddiant codi arian rhediad RCS Dark

Cymerodd Ali Thomas (Prif Weithredwr), Sion Jones (Cyfarwyddwr Gweithrediadau) a Rebecca Tillotson (Swyddog Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol) ran yn Ras Dywyll Tŷ Gobaith Hope House yng Nghonwy ar 28 Hydref 2023. Roedd hyn yn rhan o waith codi arian RCS ar gyfer ein helusen ddewisol Ty Gobaith.