Mae meistroli noson dda o gwsg yn allweddol i wella eich iechyd, ffocws, a pherfformiad, p’un a ydych yn chwilio am swydd neu’n dechrau un newydd.
Dysgwch sut i drawsnewid eich cwsg drwy gyngor a dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth:
Uchafbwyntiau’r Sesiwn:
- Gwyddor Cwsg: Deall sut mae cysgu’n gwella’ch cof a’ch gallu i ganolbwyntio ac yn rheoleiddio’ch hwyliau a’ch iechyd cyffredinol.
- Meistroli’ch Trefn Ddyddiol (Hylendid Cwsg): Dysgu sut i lunio eich trefn ddyddiol i optimeiddio patrwm cysgu a deffro naturiol eich corff.
- Creu eich Amgylchedd Cysgu Delfrydol: Darganfod sut i addasu eich amgylchedd i greu’r lle perffaith ar gyfer gorffwys a gwella.
- Cadernid Meddwl: Dysgu sut i dawelu ’meddwl prysur’ a rheoli pryderon sy’n eich cadw’n effro.
- Camau Ymarferol: Camau y gellir eu rhoi ar waith i wella ansawdd eich cwsg a’ch lefelau egni i gael effaith ar unwaith.