Hyrwyddo Llesiant yn y Gweithle

Mae Mudiad Meithrin yn darparu sylfaen gref o brofiadau chwarae a dysgu cyfrwng-Cymraeg ar gyfer plant o pan maent yn newyddanedig hyd at oedran ysgol.

Fel mudiad gwirfoddol sy’n angerddol dros ddathlu ac annog defnyddio’r Gymraeg, tyfodd yn sylweddol dros y blynyddoedd gan barhau i ddylanwadu mewn ffordd gadarnhaol ar fywydau plant yng Nghymru.

Yr Her Llesiant

Yn 2021, penododd Mudiad Meithrin RCS er mwyn eu helpu i ddatblygu fframwaith llesiant trosfwaol fydd yn cefnogi, gyrru a mewnosod lles ar draws gweithrediadau’r cwmni, gan adeiladu ar eu cryfderau presennol a’r cynnydd positif a wnaed yn ystod y pandemig.

Beth Wnaethom Ni

Aethom ati i arwain rhanddeiliaid mewnol allweddol ynMudiad Meithrin drwy hunan-asesiad cynhwysfawr o’u darpariaeth lles yn erbyn cyfres o safonau a dangosyddion a argymhellwyd. Llwyddodd hyn i’n galluogi i adnabod cryfderau, bylchau a chyfleoedd, sydd yn eu tro wedi ein helpu ni i lunio cynllun gweithredu wedi’i flaenoriaethu a fframwaith llesiant trosfwaol wedi’i deilwra’n arbennig. Rydym yn cynnwys staff ar bob lefel yn y sefydliad drwy grwpiau ffocws ac arolygon, a’r cyfan wedi’i gynnal yn Gymraeg.

Gan ddefnyddio ein hadborth, rhoddodd y cwmni raglen hyfforddi strwythuredig ar waith ar gyfer staff, gan gynnwys Hyrwyddwyr Llesiant a Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.

Yr Effaith

Mae’r dull strwythuredig wedi golygu bod cefnogaeth ar gyfer lles nawr wedi’i mewnosod yn llawn ac yn cael ei chydnabod o fewn y diwylliant sefydliadol ym Mudiad Meithrin.

Roedd hi’n hawdd iawn gweithio gyda RCS. Fe wnaethon nhw gymryd amser i ddeall a dysgu sut mae’r mudiad yn  gweithio, ac i ddeall i ble roedden ni am fynd wrth ddatblygu ein strategaeth iechyd a llesiant. Fe wnaethon nhw siarad â staff, a gweld o hynny beth roedden ni’n ei wneud yn dda – a chanmol hynny – oedd yn ein rhoi ni mewn sefyllfa gryf i fedru datblygu’ r gwaith ymhellach.

O ganlyniad i’r gwaith mae RCS wedi ei wneud efo ni, ry’n ni yn gobeithio denu arian grant a medru penodi aelod o staff rhan amser i yrru’r strategaeth iechyd a llesiant yn ei blaen. Ry’n ni hefyd wedi darparu mwy o gyrsiau i’n staff er mwyn eu cefnogi nhw o ran pethau fel deall y menopôs, bod yn glust i wrando ar gydweithwyr a deall sut y gallwn ni gyd fod  yn hyrwyddwyr lles o fewn y mudiad.