Hyrwyddo Lles yn y Gweithle

Mentera yw cwmni datblygu busnesau annibynnol blaenllaw Cymru, sy’n cefnogi busnesau newydd a sefydledig i dyfu, arloesi a llwyddo. Mae’r sefydliad hefyd wedi ymrwymo i greu diwylliant mewnol cadarnhaol sy’n cefnogi ei weithwyr wrth iddynt helpu eraill i ffynnu.

Yr Her Lles

Cyn ymgysylltu ag RCS, roedd dull Mentera o ymdrin â lles staff yn anffurfiol ac yn anghyson. Er bod Hyrwyddwyr Lles wedi’u penodi, ychydig iawn o hyfforddiant a gawsant, ac roedd llawer o staff yn aneglur ynghylch y rôl yr oeddent yn ei chwarae. Roedd rhai gweithwyr yn wynebu heriau iechyd ond nid oeddent yn gwybod sut i gael mynediad at gymorth na rheoli eu cyflyrau, ac nid oedd gan Adnoddau Dynol yr adnoddau a’r ymwybyddiaeth i gyfeirio at gymorth arall yn effeithiol.

Cydnabu Mentera fod angen dull mwy strwythuredig a rhagweithiol—a throdd at RCS am gymorth i lunio strategaeth a oedd yn gweithio i bawb.

Beth Wnaethom Ni

Gan weithio’n agos gyda RCS, dechreuodd Mentera gyda chyfres o gyfarfodydd a grwpiau ffocws i asesu anghenion staff a bylchau presennol yn y ddarpariaeth. Yna cyflwynodd RCS hyfforddiant wedi’i deilwra, gan gynnwys Ymwybyddiaeth o’r Menopos, Cymorth Cyhyrysgerbydol (MSK), Gweithdai Cwsg, Hyrwyddwyr Lles, Grwpiau Ffocws Staff, a Goruchwylio a Pherfformiad.

O ganlyniad, daeth Hyrwyddwyr Lles Mentera yn fwy hyderus yn eu rolau, a chynyddodd ymwybyddiaeth o’u pwrpas ar draws y sefydliad. Derbyniodd rheolwyr llinell gefnogaeth a hyfforddiant hefyd, gan eu galluogi i gyfeirio staff yn fwy effeithiol a chreu diwylliant mwy ymatebol a chefnogol.

Yr Effaith

Mae’r newidiadau wedi cael effaith fesuradwy ac ystyrlon. Mae gan Mentera ddealltwriaeth gliriach o anghenion lles staff bellach ac mae wedi cyflwyno sgyrsiau a digwyddiadau wedi’u targedu mewn ymateb. Mae gan staff fynediad gwell at gefnogaeth erbyn hyn, ac mae rheolwyr llinell yn fwy hyderus wrth gyfeirio at wasanaethau lles.

Mae Mentera eisoes wedi gweld cynnydd o 14% yn nifer y staff sy’n teimlo bod eu lles yn cael ei gefnogi. Dangosodd arolwg staff diweddar hefyd fod 85% wedi nodi bod eu hiechyd yn dda neu’n dda iawn, a chynnydd o 85% yn nifer y staff a oedd yn gwybod pwy i gysylltu â nhw am bryderon iechyd neu les.

Mae’n wych gweld y gwelliannau hyn. Rydym yn gwybod bod mwy o waith i’w wneud, ond rydym wedi cael dechrau da diolch i arweiniad a chefnogaeth RCS.

Meddai Dafydd Bowen, Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd.