Hyrwyddo Lles yn y Gweithle
Mae Cwmni Da yn gwmni cynhyrchu teledu gwobredig, wedi’i leoli yng Nghaernarfon, gyda thîm o 56 staff llawn amser a dros 30 o swyddogion cyswllt.
Yr Her Lles
Tynnodd y cwmni sylw at faterion lles sy’n gyffredin i’r diwydiant cynhyrchu teledu cyfan, gyda staff yn aml dan straen aruthrol a chriwiau’n gweithio oriau hir o dan amodau dan bwysau. Gwaethygwyd y straen yma gan y pandemig, a dyna pryd y dechreuodd RCS eu hymgysylltiad â’r cwmni.
Beth Wnaethom Ni
Gweithiodd RCS gyda Chwmni Da i gryfhau cefnogaeth lles gweithwyr ar draws meysydd o angen a amlygwyd. Darparodd canlyniadau arolwg staff cynhwysfawr fewnwelediad a helpodd i lunio’r gefnogaeth a roddwyd. Mynychodd Uwch Reolwyr sesiwn hyfforddi ar ymdrin â straen, ac yna fe wnaethant rannu gwybodaeth â’u timau am y gefnogaeth therapiwtig unigol sydd ar gael trwy’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith. Helpodd RCS y cwmni hefyd i recriwtio a hyfforddi pedwar hyrwyddwr lles penodol.
Yr Effaith
Profodd y cyswllt ag RCS yn hynod gadarnhaol i’r cwmni. Dywedodd David Parry Evans, Rheolwr Cyffredinol Cwmni Da:
Mae wedi rhoi strwythur inni ar sut i ymdrin â materion lles a straen. Ers cysylltu ag RCS, mae’r gefnogaeth a’r help rydw i wedi’i gael, a’r wybodaeth rydw i wedi gallu ei rhannu gyda fy nghydweithwyr, wedi bod yn wych. O gael 4 Hyrwyddwr Lles newydd, i rannu rhif RCS gydag aelodau staff oedd angen siarad â gweithiwr proffesiynol annibynnol, mae RCS wedi cyfrannu cymaint, ar adeg mor anodd i gynifer.