Positifrwydd yn y Gweithle


Caiff gweithle positif ei greu, nid drwy gamgymeriad, ond drwy ddyluniad. Mae’r gweithdy hwn yn eich helpu i ddeall yr elfennau allweddol sy’n cyfrannu at amgylched gwaith positif a chynhyrchiol, lle mae gweithwyr yn teimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu bod yn ddiogel, ac â chymhelliant i lwyddo.

Uchafbwyntiau’r sesiwn:

  • Positifrwydd yn y Gweithle: Deall y prif elfennau sy’n cyfrannu tuag at amgylchedd gwaith positif.
  • Beth yw Gweithle Positif? Dysgwch am nodweddion gweithle iach a chymhellol.
  • Beth yw Gweithle Gwenwynllyd? Dysgwch sut i adnabod arwyddion amgylchedd gwaith gwenwynllyd a sut i fynd i’r afael â hwy.
  • Diogelwch Seicolegol: Darganfyddwch sut i greu man diogel lle mae gweithwyr yn teimlo’n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi.
  • Dal Gafael ar Dalent: Deall y ffactorau cyffredin sy’n gyrru gweithwyr i ffwrdd, ac ystyried strategaethau i gadw’ch pobl orau.
  • Ymddiriedaeth: Dysgwch sut i adeiladu a chynnal ymddiriedaeth o fewn eich tîm.
  • Llywio Drwy Negyddiaeth a Gweld Bai: Enillwch sgiliau er mwyn rheoli a lliniaru negyddiaeth a gweld bai mewn ffordd effeithiol.
  • Ymyriadau i Greu Gweithle Positif: Rhowch ymyriadau ymarferol ar waith er mwyn gwella positifrwydd yn y gweithle.
  • Creu Cynllun Gweithredu a’r Camau Nesaf: Datblygwch gynllun gweithredu eglur er mwyn cynnal amgylchedd gwaith positif.

Ymholiad Gweithdy Hyfforddi

Ymholiad Gweithdy Hyfforddi

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Oriau agor yw Dydd Llun – Iau 9.30am – tan 4.30pm, Dydd Gwener 9.30am tan 4pm.