Cefnogi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Gweithle


Ymunwch â’n gweithdy ar-lein Cefnogi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Gweithle er mwyn archwilio Model Cymdeithasol Anabledd, deall cyfrifoldebau cyflogwr ac adnabod addasiadau rhesymol effeithiol.

Drwy senarios gweithle ymarferol a thrafodaeth, byddwch yn cael syniadau y gallwch eu rhoi ar waith yn syth er mwyn helpu i gael gwared ar rwystrau a galluogi cydweithwyr anabl i ffynnu.

Uchafbwyntiau’r Sesiwn:

  • Deall anabledd a’r Model Cymdeithasol o Anabledd.
  • Herio cam ganfyddiadau cyffredin.
  • Ystyried ffeithiau a rhwystrau cyflogaeth anabl allweddol.
  • Deall cyfrifoldebau cyflogwyr o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
  • Dysgu sut i adnabod a rhoi addasiadau rhesymol ar waith.
  • Cymhwyso dysgu drwy senarios gweithle ymarferol.
  • Darganfod ffynonellau canllawiau a chefnogaeth y gallwch ymddiried ynddynt.
  • Ystyried arferion da sy’n mynd y tu hwnt i’r lleiafswm o ran gofynion cyfreithiol.
  • Cael syniadau ymarferol ar gyfer cael gwared ar rwystrau a chreu gweithle mwy cynhwysol.