Cael Sylw: Clinig CV a Cheisiadau am Swydd

Dysgu sut i sicrhau fod eich CV a’ch cais yn sefyll allan, gan arddangos eich sgiliau a’ch profiad a bodloni anghenion y cyflogwr.

Gwneud yn siŵr fod eich CV neu’ch ffurflen gais gam ar y blaen. Cyngor arbenigol i’ch helpu i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweld.

Uchafbwyntiau’r Sesiwn:

  • Bod Gam ar y Blaen: Dysgu sut i sicrhau fod eich CV neu’ch ffurflen gais gam ar y blaen mewn maes cystadleuol ac yn gwneud argraff lle mae’n cyfrif.
  • Llwyddiant wedi’i Dargedu: Meistroli’r sgil o deilwra i amlygu sut mae’ch sgiliau a’ch profiad yn gweddu’n union i’r swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.
  • Mynegi eich Gwerth: Deall sut i fynegi eich sgiliau trosglwyddadwy ac arddangos eich ymrwymiad a’ch potensial.
  • Bod ar y blaen gyda’ch CV: Gwella’ch siawns o gael swydd drwy fod yn ymwybodol o wallau cyffredin mewn ceisiadau a sut i’w cywiro.