Gwella’r ffordd yr ydych yn chwilio am waith a dysgu sut i ganolbwyntio ar ddod o hyd i swyddi sy’n cyd-fynd â’ch sgiliau unigryw a’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Uchafbwyntiau’r Sesiwn:
Ehangu eich gorwelion a thargedu eich ceisiadau i gael yr effaith fwyaf:
- Chwilio Strategol: Dysgu sut i chwilio’n effeithlon am swyddi sy’n cyd-fynd â’ch sgiliau presennol a’ch uchelgeisiau tymor-hir.
- Ehangu eich Gorwelion: Dysgu am sgiliau trosglwyddadwy a marchnadoedd cudd i ddatgelu posibiliadau newydd cyffrous.
- Meistroli’r Ffurflen Gais: Dysgu sut i arddangos eich potensial, gan oresgyn y bylchau yn eich cyflogaeth neu’r rhwystrau canfyddedig.
- Sgiliau Addas ar gyfer y Swydd: Dangos i gyflogwyr sut mae’ch sgiliau’n gweddu i’w hanghenion i roi hwb i’ch hyder a rhoi’r cyfle gorau posib i chi’ch hun mewn cyfweliadau.