Telerau
Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r telerau ac amodau defnydd canlynol, a chael eich rhwymo ganddynt.
Darperir dolenni ar gyfer gwefannau eraill y gall RCS eu cynnwys o dro i dro, er eich cyfleustra chi. Nid ydynt yn golygu bod RCS yn arnodi’r wefan/gwefannau. Nid oes gan RCS gyfrifoldeb am gynnwys y gwefan/gwefannau cysylltiedig.
Telerau ac Amodau Defnydd
Nid oes gan ddefnyddwyr y wefan hon unrhyw hawliau na thrwyddedau yn nac i’r wefan a/neu’r cynnwys ac eithrio’r hawl cyfyngedig i ddefnyddio’r wefan yn unol â’r telerau hyn.
Ni chaiff defnyddwyr gopïo, atgynhyrchu, ail-greu, dad-greu, datod, defnyddio peirianneg wrthdro, dyrannu, cyhoeddi, gwerthu, arddangos, perfformio, addasu, uwchlwytho i greu gweithiau dynwaredol, trosglwyddo na defnyddio unrhyw ran o’r wefan hon na’i chynnwys, ac eithrio fel yr amlinellir isod.
Eiddo Deallusol
Mae gwefan RCS a’i chynnwys, wedi’u diogelu gan hawlfraint a/neu hawliau perchnogol eraill. O dro i dro, ymhlith y cynnwys, gall fod cynnwys sy’n berchen ac sy’n cael ei reoli gan drydydd partïon ac sy’n drwyddedig i’r cwmni. Gallai adroddiadau ac erthyglau unigol eraill etc. hefyd fod yn weithiau hawlfraint.
Mae defnyddwyr yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw rybuddion neu gyfyngiadau hawlfraint ychwanegol sy’n cael eu cynnwys ar y wefan hon.
Mae defnyddwyr yn cytuno i anfon e-bost i hello@rcs-wales.co.uk os ydynt yn ymwybodol o unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r wefan.
Lawrlwytho
Caniateir lawrlwytho cyn belled â bod defnyddwyr yn cydymffurfio â’r meini prawf canlynol:-
- Bod lawrlwythiadau a chopïau’n cael eu defnyddio at ddibenion personol, anfasnachol yn unig.
- Bod hysbysiadau hawlfraint yn cael eu cadw a bod defnyddwyr yn parhau’n rhwymedig wrth delerau hysbysiadau o’r fath.
Os oes angen caniatâd RCS arnoch i ddefnyddio unrhyw ran o’r cynnwys ar wahân i’r hyn a ddisgrifir uchod, mae croeso i chi gysylltu ag hello@rcs-wales.co.uk.
Gallai defnydd anawdurdodedig o’r wefan hon roi rheswm dros hawlio am iawndal a/neu fod yn drosedd.