Mae Go Gwyrdd yn brosiect pum mlynedd sy’n cefnogi pobl ifanc sydd ag anableddau a’r rheiny sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol i archwilio, profi a chael rolau sy’n helpu i warchod y blaned.
Rydym eisiau ffurfio partneriaethau gyda chyflogwyr gwyrdd o’r un anian ar draws Gogledd Cymru i greu newid ystyrlon a hirdymor — gan gryfhau busnesau, agor drysau ar gyfer pobl ifanc, a thyfu economi leol sydd fwy teg a gwyrdd.
Ddim yn siŵr os yw eich busnes yn ‘wyrdd’?
Sefydliad sydd â meddylfryd gwyrdd yw unrhyw fusnes sy’n helpu i leihau carbon neu wastraff, yn amddiffyn natur, neu’n cefnogi cymunedau i addasu i newid hinsawdd. A hyd yn oed os nad yw eich sefydliad yn wyrdd, gallai’r swydd fod yn wyrdd. Dal ddim yn siŵr? Cysylltwch â GoGwyrdd@rcs-wales.co.uk.
Ffyrdd o Gymryd Rhan
Gallwch gefnogi’r prosiect ym mha bynnag ffordd sy’n gweithio i chi — bydd pob cyfraniad yn helpu.
- Cynnal ymweliad gweithle neu safle
- Rhoi sgwrs neu gymryd rhan mewn astudiaeth achos fer
- Cynnig sesiwn blasu gwaith, cysgodi, neu brofiad gwaith
- Mentora person ifanc (darperir cefnogaeth lawn)
- Darparu cyfle lleoliad gwaith wedi’i ariannu neu swydd
Yr hyn rydym yn ei gynnig i Gyflogwyr yn gyfnewid am hynny
- Cymorth recriwtio a gweithlu Mynediad at bobl ifanc â chymhelliant, gyda chefnogaeth Hyfforddwyr Gwaith pwrpasol, gydag opsiynau ar gyfer lleoliadau gwaith 6-12 mis wedi’u hariannu a chymorthdaliadau cyflog.
- Cymorth hyfforddiant a busnes Gallwch dderbyn hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn mewn recriwtio cynhwysol, ymwybyddiaeth o anabledd a niwroamrywiaeth, dulliau ymarferol ac arweiniad i wella’ch gweithle ynghyd â chymorth i helpu’ch busnes dderbyn statws Hyderus o ran Anabledd.
- Rhwydwaith o Gyflogwyr Cefnogol Ymunwch â chymuned o sefydliadau o’r un anian, gyda chyfleoedd i gysylltu, dysgu a rhannu trwy ddigwyddiadau a hyfforddiant grŵp.
- Arddangos eich Ymrwymiad Sylw i’ch sefydliad ar ein gwefan a’n sianeli, ac amlygu eich arweinyddiaeth mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a’r economi werdd.
Eisiau gwybod mwy? Lawrlwythwch y pecyn Cyflogwr:
Dechrau arni
Byddem wrth ein bodd yn clywed sut yr hoffech gymryd rhan. P’un a ydych eisiau cynnig cyfle gwirfoddoli neu swydd, cynnal ymweliad, rhannu eich arbenigedd neu gael gwybod mwy, rhowch wybod i ni:
- Cwblhewch ein ffurflen ymholiad cyfranogiad isod
- Anfonwch e-bost atom drwy GoGwyrdd@rcs-wales.co.uk
Ymunwch â’r gymuned Go Gwyrdd a helpwch i siapio’r genhedlaeth nesaf o dalent werdd.
Os ydych yn adnabod person ifanc y gallai elwa ar hyn — aelod o’r teulu, cymydog, cydweithiwr neu ffrind — gallwch ei gyfeirio at ein tudalen wybodaeth i bobl ifanc a’n ffurflen gofrestru.