Ydych chi rhwng 16-30 oed, yn byw yng ngogledd Cymru, ac â diddordeb mewn gwaith sy’n helpu pobl, lleoedd neu’r amgylchedd?
Gall Go Gwyrdd eich helpu i chwilio am swyddi gwyrdd, magu hyder, dysgu sgiliau newydd a chymryd eich cam nesaf tuag at waith.
Sut all Go Gwyrdd helpu
Os yw Go Gwyrdd yn addas ar eich cyfer chi, byddwch yn cael Hyfforddwr Swydd personol a all eich helpu i:
- ystyried swyddi a gyrfaoedd gwyrdd
- deall eich cryfderau, eich diddordebau a’ch nodau
- meithrin hyder, sgiliau a phrofiad
- paratoi CVs, ceisiadau a chyfweliadau
- mynediad at hyfforddiant, gwirfoddoli, profiad gwaith neu leoliadau gwaith
- cael cefnogaeth wrth i chi ddechrau gweithio ac ymgartrefu mewn swydd
Efallai y byddwn ni hefyd yn gallu helpu gyda phethau ymarferol fel teithio, dillad neu offer.
Pwy all gymryd rhan?
Mae Go Gwyrdd ar gyfer pobl ifanc sydd:
- yn 16-30 oed
- yn byw yng ngogledd Cymru
- â diddordeb mewn swyddi neu yrfaoedd gwyrdd
- yn wynebu rhwystrau o ran cael gwaith
Gallai rhwystrau gynnwys anabledd, niwrowahaniaeth, cyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol, neu amgylchiadau eraill sy’n ei gwneud hi’n anoddach dod o hyd i waith neu ddechrau gweithio.
Gall pobl ifanc o gymunedau lleiafrifol ethnig hefyd wynebu rhwystrau rhag gwaith, ac rydym yn croesawu ymholiadau.
Beth yw swydd werdd?
Swydd werdd yw unrhyw swydd sy’n helpu i amddiffyn neu wella’r amgylchedd.
Gellir dod o hyd i swyddi gwyrdd mewn llawer o wahanol leoedd a meysydd — o barciau, ffermydd ac atyniadau ymwelwyr i adeiladu, trafnidiaeth, swyddfeydd, technoleg, ailgylchu, addysg a mwy.
“Doeddwn i ddim wedi sylweddoli faint o swyddi oedd yn wyrdd, ac roedd rhai yn agos iawn at ble rydw i’n byw.”
Cyfranogwr Go Gwyrdd
Sut i gymryd rhan
Cwblhewch y ffurflen ymholiad a bydd aelod o dîm Go Gwyrdd yn cysylltu â chi o fewn 8 diwrnod gwaith. Byddan nhw’n ateb eich cwestiynau, yn dysgu mwy am eich diddordebau a’ch anghenion cymorth, ac yn egluro beth fydd yn digwydd nesaf.