Trawsnewid bywydau, creu dyfodol
Mae ein gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau, gweithleoedd a chymunedau yng Nghymru. Ynghyd â’n partneriaid, cefnogwyr a’n cyllidwyr, rydym yn datblygu dulliau sy’n galluogi pobl i fod ar eu gorau yn y gwaith.
Dylai fod pawb yn gallu cyflawni eu potensial drwy waith
Mae tystiolaeth glir fod bod mewn gwaith da yn eich gwneud yn fwy tebygol o gael gwell iechyd corfforol a meddyliol ac ansawdd bywyd gwell. Gall bod heb waith arwain at ganlyniadau iechyd gwaelach, tra gall cyflyrau iechyd penodol achosi diweithdra. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod pobl wedi’u grymuso i gyrraedd eu llawn botensial personol, cymdeithasol ac economaidd drwy weithio.
Ein dull
Mae gennym ymagwedd foesegol gref tuag at ein cenhadaeth ac am sicrhau fod effaith ac etifeddiaeth gadarnhaol i’n gwaith. Mae ein cwmni wedi’i wreiddio’n gadarn yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, ac rydym yn cynnal ein hymrwymiad craidd i ddatblygu a rhedeg ein busnes mewn ffordd sy’n gymdeithasol gyfrifol.
- Rydym yn buddsoddi’n sylweddol yn y lleoedd lle’r ydym yn byw a gweithredu, yn ymgysylltu â sefydliadau lleol, yn defnyddio cyflenwyr lleol, yn gwirfoddoli mewn cymunedau lleol ac yn cefnogi elusennau yn y gymuned.
- Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gwmni Cymraeg, ac mae gennym ymrwymiad hirsefydlog i sicrhau y gall pobl dderbyn gwasanaethau yn eu hiaith ddewisol.
- Rydym yn cydnabod gwerth ein mannau gwyrdd a glas ar gyfer hyrwyddo llesiant, ac yn gweithio’n rhagweithiol i ddiogelu’r mannau hyn ar gyfer lles a gwydnwch cenedlaethau’r dyfodol.
Canlyniadau cadarnhaol
Fe wnaethon ni gefnogi 2076 o weithwyr yng Nghymru yn 2024-25, gan eu helpu i fynd i’r afael â heriau iechyd a gwella eu llesiant yn y gwaith drwy gefnogaeth a therapïau cyfannol ac wedi’u teilwra. Dywedodd 3 allan o 4 bod ein cefnogaeth wedi’u helpu i aros mewn gwaith, cynyddu eu horiau gwaith, cael dyrchafiad neu newid swydd.
Gweithleoedd iach
Trwy ein rhaglenni hyfforddiant yn 2024-25, fe wnaethon ni rymuso 856 o bobl o 144 o gwmnïau bach a chanolig ledled Cymru i greu amgylcheddau gwaith cynhwysol a chefnogol. Ymhlith y rhain mae 109 o hyrwyddwyr llesiant newydd sydd wedi ymuno â’n rhwydwaith Cymru gyfan o 350 o hyrwyddwyr i gael effaith gadarnhaol ar lesiant yn y gwaith bob dydd.
Cyrraedd potensial
Ers ein sefydlu yn 2007, rydym wedi cael effaith ar 25,000 o fywydau, gan alluogi pobl i gyrraedd eu potensial drwy gael, cynnal neu wneud cynnydd yn eu swydd.
RCS hadroddiad effaith 2024–25
Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Hadroddiad Effaith 2024—25