Mae RCS yn hynod falch o gyhoeddi ei bod wedi’i ddewis gan Wrecsam a Sir y Fflint i ddarparu Cysylltu â Gwaith yn rhan o weithredu rhaglen gyflogaeth wedi’i chefnogi arweiniol yr Adran Gwaith a Phensiynau ar draws Cymru a Lloegr.
Bwriad Cysylltu â Gwaith yw helpu pobl sy’n anabl, rhai sydd â chyflyrau iechyd neu anghenion ychwanegol cymhleth, i ddod o hyd i waith, i ddechrau gweithio ac i barhau i weithio. Mae’r gwasanaeth yn gweithio drwy helpu pobl i mewn i waith cyn gynted â phosib, drwy roi’r gefnogaeth gywir yn ei lle er mwyn sicrhau eu bod yn gallu llwyddo.
Yn dilyn y dyfarniad gwobr diweddar, rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam er mwyn paratoi ar gyfer lansio rhaglen yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn ystod yr wythnosau sydd i ddod. Edrychwn ymlaen at ymwneud ag ystod eang o sefydliadau lleol er mwyn annog atgyfeiriadau i mewn i’r rhaglen, fydd yn darparu cefnogaeth gyflogaeth un wrth un a hyfforddiant ar gyfer ymgeisio am swydd drwy ein tîm o Arbenigwyr Cyflogaeth.
Rydym ni nawr yn recriwtio staff newydd i ymuno â’n tîm – os ydych chi’n angerddol dros helpu pobl i gyflawni eu potensial, gweler y manylion ar ein gwefan neu dewch i’n briffiadau gwybodaeth ar 8fed neu 9fed o Fedi er mwyn dysgu mwy. Rhoddir hyfforddiant llawn.