Go Gwyrdd i Gyflogwyr

Datblygwch eich gweithlu, cefnogwch Ogledd Cymru fwy gwyrdd

Mae Go Gwyrdd yn brosiect pum mlynedd sy’n cefnogi pobl ifanc sydd ag anableddau a’r rheiny sydd o gymunedau ethnig lleiafrifol i archwilio, profi a chael rolau sy’n helpu i warchod y blaned.

Rydym eisiau ffurfio partneriaethau gyda chyflogwyr gwyrdd o’r un anian ar draws Gogledd Cymru i greu newid ystyrlon a hirdymor — gan gryfhau busnesau, agor drysau ar gyfer pobl ifanc, a thyfu economi leol sydd fwy teg a gwyrdd.

Ffyrdd o Gymryd Rhan

Gallwch gefnogi’r prosiect ym mha bynnag ffordd sy’n gweithio i chi — bydd pob cyfraniad yn helpu.

  • Cynnal ymweliad gweithle neu safle
  • Rhoi sgwrs neu gymryd rhan mewn astudiaeth achos fer
  • Cynnig sesiwn blasu gwaith, cysgodi, neu brofiad gwaith
  • Mentora person ifanc (darperir cefnogaeth lawn)
  • Darparu cyfle lleoliad gwaith wedi’i ariannu neu swydd

Yr hyn rydym yn ei gynnig i Gyflogwyr yn gyfnewid am hynny

  • Cymorth recriwtio a gweithlu Mynediad at bobl ifanc â chymhelliant, gyda chefnogaeth Hyfforddwyr Gwaith pwrpasol, gydag opsiynau ar gyfer lleoliadau gwaith 6-12 mis wedi’u hariannu a chymorthdaliadau cyflog.
  • Cymorth hyfforddiant a busnes Gallwch dderbyn hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn mewn recriwtio cynhwysol, ymwybyddiaeth o anabledd a niwroamrywiaeth, dulliau ymarferol ac arweiniad i wella’ch gweithle ynghyd â chymorth i helpu’ch busnes dderbyn statws Hyderus o ran Anabledd.
  • Rhwydwaith o Gyflogwyr Cefnogol Ymunwch â chymuned o sefydliadau o’r un anian, gyda chyfleoedd i gysylltu, dysgu a rhannu trwy ddigwyddiadau a hyfforddiant grŵp.
  • Arddangos eich Ymrwymiad Sylw i’ch sefydliad ar ein gwefan a’n sianeli, ac amlygu eich arweinyddiaeth mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a’r economi werdd.

Eisiau gwybod mwy? Lawrlwythwch y pecyn Cyflogwr:

Pecyn Cyflogwr

Dechrau arni

Byddem wrth ein bodd yn clywed sut yr hoffech gymryd rhan. P’un a ydych eisiau cynnig cyfle gwirfoddoli neu swydd, cynnal ymweliad, rhannu eich arbenigedd neu gael gwybod mwy, rhowch wybod i ni:

Ymunwch â’r gymuned Go Gwyrdd a helpwch i siapio’r genhedlaeth nesaf o dalent werdd.

Os ydych yn adnabod person ifanc y gallai elwa ar hyn — aelod o’r teulu, cymydog, cydweithiwr neu ffrind — gallwch ei gyfeirio at ein tudalen wybodaeth i bobl ifanc a’n ffurflen gofrestru.

Ymholiad Go Gwyrdd

Prosiect Gyrfaoedd Go Gwyrdd

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Oriau agor yw Dydd Llun – Iau 9.30am – tan 4.30pm, Dydd Gwener 9.30am tan 4pm.