Diolch am eich diddordeb mewn cyrchu gwasanaethau cymorth RCS. Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn cynnig mynediad cyflym i hyd at chwe sesiwn (am ddim) o wasanaethau ffisiotherapi, therapi seicolegol a therapi galwedigaethol wedi’u teilwra, a gynlluniwyd i helpu pobl gyflogedig neu hunangyflogedig i ddychwelyd i’r gwaith neu reoli cyflwr iechyd yn y gwaith.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith hefyd yn cynnig cymorth a hyfforddiant am ddim i fusnesau yn y sector preifat a’r trydydd sector, sydd yn aml heb fynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol.
Meini Prawf Cymhwysedd
- Yn byw yng Ngogledd Cymru, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot;
- Bod â hawl gyfreithiol i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig; a
- Yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig.
Er mwyn ein helpu i nodi pa wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal ac i asesu eich cymhwysedd, cwblhewch y ffurflen isod.
Gofynnir i chi ddarparu prawf adnabod i ddangos eich bod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn ar ôl derbyn eich ymholiad. Gan fod y gwasanaeth hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’n ofynnol i ni ei gasglu’n ddiogel i fodloni meini prawf cymhwysedd. I ddarganfod mwy am pam rydym yn casglu gwybodaeth bersonol, a sut mae RCS wedi ymrwymo i’w diogelu, darllenwch ein Datganiad Preifatrwydd yma.
Bydd ein tîm yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith i drafod eich anghenion.
Os oes angen i chi siarad â ni yn gynt, cysylltwch â ni yn ystod ein horiau swyddfa arferol am gymorth.
Pwy i’w galw mewn argyfwng?
Nid yw gwasanaeth RCS yn wasanaeth cymorth iechyd meddwl brys, ac ni allwn gynorthwyo pobl sydd angen cymorth ar unwaith.
Os ydych chi’n teimlo eich bod am geisio cyflawni hunanladdiad, os ydych wedi niweidio’ch hun yn ddifrifol (neu ar fin gwneud), neu os oes angen cymorth meddygol brys arnoch, peidiwch â llenwi’r ffurflen hon – dylech ffonio 999.
- Y GIG am gymorth iechyd meddwl brys drwy ffonio GIG Cymru ar 111 a dewis OPSIWN 2
- Mae’r C.A.L.L. Llinell gymorth ar 0800 132 737 neu ewch i https://callhelpline.org.uk, i gael cymorth iechyd meddwl 24/7