Go Gwyrdd

Cysylltu cyflogwyr gwyrdd â phobl ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol sy’n chwilio am waith.

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 16-30 oed sydd â diddordeb mewn swyddi a gyrfaoedd gwyrdd, a gyda chyflogwyr sydd eisiau creu gweithlu sy’n fwy cynhwysol, amrywiol a chynaliadwy.

P’un a ydych yn chwilio am gefnogaeth i gymryd y cam nesaf i mewn i gyflogaeth neu eich bod yn gyflogwr sydd â diddordeb mewn cynnig cyfleoedd, gall Go Gwyrdd helpu.

Mae’r prosiect yn rhedeg tan 2030 ac yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid ledled Gogledd Cymru, gan gysylltu pobl, cymunedau a chyflogwyr â chyfleoedd sydd o fudd i’r economi a’r amgylchedd. Ariennir y prosiect drwy’r Gronfa Asedau Segur, sy’n cael ei darparu drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Cefnogaeth ar gyfer Pobl Ifanc

Ydych chi rhwng 16-30 oed, yn byw yng ngogledd Cymru, ac â diddordeb mewn gwaith sy’n helpu’r blaned?

Mae Go Gwyrdd yn darparu cefnogaeth bersonol i helpu pobl ifanc i ystyried gyrfaoedd gwyrdd, meithrin hyder, datblygu sgiliau a symud tuag at gyflogaeth.

Byddwch yn gweithio gyda Hyfforddwr Swydd pwrpasol a all eich helpu i:

  • Ystyried opsiynau gyrfa gwyrdd
  • Meithrin hyder a sgiliau cyflogadwyedd
  • Cael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith
  • Dod o hyd i leoliadau gwaith a chyfleoedd gwaith â thâl
  • Paratoi CVs, ceisiadau a chyfweliadau
  • Derbyn cefnogaeth barhaus wrth i chi fynd i mewn i waith

Ewch i’n Tudalen Pobl Ifanc i ddysgu am gymhwysedd, y gefnogaeth sydd ar gael a sut i gymryd rhan.

Rwy’n Berson Ifanc

Cefnogaeth ar gyfer Cyflogwyr

Mae Go Gwyrdd yn gweithio gyda chyflogwyr ar draws Gogledd Cymru sydd wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu sy’n fwy gwyrdd a chynhwysol.

Trwy weithio gyda ni, gall cyflogwyr:

  • Gael mynediad at dalent leol, frwdfrydig
  • Cynnig lleoliadau gwaith a chyfleoedd cyflogaeth
  • Derbyn cymorth i greu arferion recriwtio cynhwysol
  • Cyfrannu at ganlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol yng Ngogledd Cymru
  • Helpu i ddatblygu gweithlu gwyrdd y dyfodol

P’un a ydych eisoes yn gweithredu o fewn sector gwyrdd neu fod eich sefydliad yn mabwysiadu ffyrdd mwy gwyrdd o weithio, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Ewch i’n Tudalen Cyflogwyr i ddysgu sut gall eich sefydliad gymryd rhan.

Rwy’n Gyflogwr

Cysylltwch â Ni

Os hoffech wybod mwy am Go Gwyrdd, cwblhewch y ffurflen ymholiad isod a byddwn yn cysylltu â chi.

Ariennir Priosect ‘Go Gwyrdd’ drwy’r Gronfa Asedau Segur, sy’n cael ei darparu drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

  • Adferiad logo
  • M-Sparc logo
  • King's Trust logo
  • CoOptions logo
  • Ethnic Minorities and Youth Support Team Wales logo
  • RCS Wales logo
  • STAND North Wales logo
  • North Wales Wildlife Trust logo
  • Sustainable Steps Wales logo

Ymholiad Go Gwyrdd

Prosiect Gyrfaoedd Go Gwyrdd

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Oriau agor yw Dydd Llun – Iau 9.30am – tan 4.30pm, Dydd Gwener 9.30am tan 4pm.