Rheoli Timau drwy Newid

Rydym yn edrych ar fodelau o reoli newid effeithiol sydd wedi eu profi, ac yn cyflwyno ffyrdd creadigol ac ymarferol o hyrwyddo cyfathrebu clir yn ystod adegau o newid yn y gweithle. Rydym yn amlinellu beth mae newid yn ei olygu i’r cyflogwr ac i’r gweithiwr.

Mae’r cwrs hwn yn archwilio:

  • Agweddau emosiynol a theori rheoli newid
  • Deall y rhwystrau i newid
  • Proses wyth cam
  • Agweddau adeiladol a dinistriol arweiniad tîm

Mae’r cwrs yn cynnwys:

  • Pecyn Cymorth a Dangos y Ffordd
  • Tystysgrif am bresenoldeb ar y cwrs

Gallwch ddod o hyd i restr o’n cyrsiau i ddod ar ein tudalen Eventbrite yma. Os rydych yn BBaCh (llai na 250 o weithwyr) yng Ngogledd, Gorllewin neu Dde Orllewin Cymru gall yr hyfforddiant hwn fod am ddim, cysylltwch â wellbeing@rcs-wales.co.uk i wirio cymhwysedd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu cwrs ar gyfer eich tîm yn unig, neu os hoffech raglen sydd yn bodloni eich anghenion chi, cysylltwch â ni heddiw.