Hyrwyddwr Lles
Gall unrhyw un fod yn Hyrwyddwr Lles gwych os ydyn nhw’n dda am wrando, yn teimlo empathi ac yn gwybod i le i gyfeirio pobl i gael cymorth a chefnogaeth.
Mae’r sesiwn hyfforddi 3 awr hwn yn dilyn model o gynorthwyo cymheiriaid, gan wella sgiliau unigolion i chwarae rôl allweddol mewn gwella iechyd a lles yn y gweithle.
Bydd y cwrs yn eich helpu i:
- Archwilio beth sy’n rhan, a beth nad yw’n rhan, o fod yn hyrwyddwr lles
- Ddeall rôl a chyfrifoldebau hyrwyddwr lles
- Ddatblygu sgiliau gwrando empathetig a gweithredol
- Archwilio syniadau am gynllunio a darparu adnoddau ar gyfer gweithgareddau i hybu lles yn eich gweithle
Mae’r cwrs yn cynnwys sesiwn rhyngweithiol, cwblhau llyfrau gwaith ar-lein, cyfle i ddefnyddio pecyn cymorth o adnoddau, a gwahoddiad agored i’n rhwydwaith hyrwyddo lles ar-lein.
Gallwch ddod o hyd i restr o’n cyrsiau i ddod ar ein tudalen Eventbrite yma. Os rydych yn BBaCh (llai na 250 o weithwyr) yng Ngogledd, Gorllewin neu Dde Orllewin Cymru gall yr hyfforddiant hwn fod am ddim, cysylltwch â wellbeing@rcs-wales.co.uk i wirio cymhwysedd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu cwrs ar gyfer eich tîm yn unig, neu os hoffech raglen sydd yn bodloni eich anghenion chi, cysylltwch â ni heddiw.