RCS wedi’i gydnabod fel Sefydliad Deall a Derbyn Awtistiaeth

Neurodivergence Wales logo

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi bod RCS wedi cael ei gydnabod yn swyddogol fel Sefydliad Deall a Derbyn Awtistiaeth gan Niwroamrywiaeth Cymru!

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i’n tîm cyfan, sydd i gyd wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol i ddeall awtistiaeth yn well a chyfathrebu effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol i bawb.

Datblygwyd y wobr hon gan Niwroamrywiaeth Cymru fel rhan o gyfres o adnoddau i gyflogwyr allu ennill mwy o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth a sut i gynnal gweithwyr awtistig yn fwy effeithiol.

See https://neurodivergencewales.org/en/employment/i-am-an-employer/ for more information and resources.